Charles Messier
From Wikipedia, the free encyclopedia
Seryddwr o Ffrainc oedd Charles Messier (26 Mehefin 1730 – 12 Ebrill 1817).[1][2]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Charles Messier | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mehefin 1730 Badonviller |
Bu farw | 12 Ebrill 1817 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | seryddwr |
Adnabyddus am | Messier object |
Priod | Mrs Charles Messier |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
Cau
Yn y flwyddyn 1760 dechreuodd wneud rhestr o wrthrychau seryddol y tybiai eu bod yn nebulae, neu nifylau. Y canlyniad oedd Catalog Messier, sy'n rhestru 109 o wrthrychau disglair anserennol yn y gofod, a gyhoeddwyd yn 1784–86. Rhoddwyd i'r gwrthrychau hynny rif a ragflaenir gan y llythyren M, er enghraifft y galaethau M101 a M31 (Galaeth Fawr Andromeda). Gwyddom heddiw fod y mwyafrif o wrthrychau Messier yn alaethau a chlystyrau serennol ac mai dim ond canran isel sy'n nifylau.