From Wikipedia, the free encyclopedia
Llenor Nigeriaidd oedd Roedd Albert Chinụalụmọgụ Achebe (16 Tachwedd 1930 - 21 Mawrth 2013).[1] Ei gampwaith oedd ei nofel gyntaf, Things Fall Apart (1958). Ymhlith ei weithiau eraill mae cofiant o Ryfel Biafra, There Was a Country (2012).[2]
Chinua Achebe | |
---|---|
Ganwyd | Albert Chinụalụmọgụ Achebe 16 Tachwedd 1930 Ogidi |
Bu farw | 21 Mawrth 2013 o clefyd Boston |
Dinasyddiaeth | Colonial Nigeria, Nigeria |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, awdur storiau byrion, awdur plant, ysgrifennwr, athronydd, academydd, academydd, awdur |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | Things Fall Apart, No Longer at Ease, Arrow of God, A Man of the People, Anthills of the Savannah |
Prif ddylanwad | Okey Ndibe |
Plaid Wleidyddol | People's Redemption Party |
Priod | Christie Chinwe Okoli-Achebe |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Nigerian National Order of Merit Award, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr Ryngwladol Nonino, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Lotus Prize for Literature, Commonwealth Poetry Prize |
Roedd Achebe o dras penaethiaid Ibo. Enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth ym 1989 a Gwobr Man Booker Rhyngwladol yn 2007. Ganwyd yn Ogidi, gorllewin Nigeria, yn fab i athro cenhadol, addysgwyd Achebe yng Ngholeg Prifysgol Ibadan. Ym 1954 ymunodd â Chorfforaeth Ddarlledu Nigeria ac ym 1961 daeth yn gyfarwyddwr darlledu allanol. Yn ystod y cyfnod hwn ysgrifennodd y pedair nofel a enillodd clod rhyngwladol iddo: Things Fall Apart (1958), No Longer At Ease (1960), Arrow of God (1964), A Man of the People (1966). Mae'r pedair yn canolbwyntio ar gyfyngiadau moesol, gwleidyddol ac ymarferol pobl Affricanaidd sy'n cael eu dal yn y gwrthdaro rhwng gwerthoedd gorllewinol a ffyrdd o fyw traddodiadol. Roedd yn ysgrifennu yn y Saesneg ond mae ei waith wedi ei gyfieithu i lawer o ieithoedd eraill. Ymadawodd a’r byd darlledu i ddysgu ym Mhrifysgol Nigeria, Nsukka (1967-72), cyn gwario cyfnod yn yr Unol Daleithiau cyn dychwelyd i Nsukka fel athro Saesneg. Cyhoeddodd lyfr o gerddi, Beware Soul Brother, ym 1972 ac enillodd Wobr Barddoniaeth y Gymanwlad yr un flwyddyn. Mae hefyd wedi cyhoeddi straeon byrion ar themâu traddodiadol Affricanaidd. Ym 1979 dyfarnwyd Gorchymyn y Weriniaeth Ffederal iddo. Cyhoeddwyd nofel arall, Anthills of the Savannah, ym 1987.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.