![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f5/Official_portrait_of_Chris_Law_crop_2.jpg/640px-Official_portrait_of_Chris_Law_crop_2.jpg&w=640&q=50)
Chris Law
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gŵr busnes a gwleidydd o'r Alban yw Chris Law neu Christopher Murray Alexander Law (ganwyd 21 Hydref 1969); fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Orllewin Dundee, yr Alban. Mae Chris yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Cyn 2015 roedd y sedd wedi'i dal gan y Blaid Lafur am gyfnod o 65 mlynedd.[1]
Ffeithiau sydyn Rhagflaenydd, Geni ...
Chris Law | |
![]() | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Jim McGovern (Llafur) |
---|---|
Geni | (1969-10-21) 21 Hydref 1969 (54 oed) Yr Alban |
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Gorllewin Dundee |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Cau
Hyfforddwyd Law fel cogydd mewn tŷ bwyta Ffrengig cyn iddo raddio yn y brifysgol, ac yna am 10 mlynedd bu'n rhedeg cwmni motobiecio yn yr Himalaya a deg mlynedd wedyn fel Ymgynghorydd Ariannol.