ffotograffydd, person busnes, gwleidydd (1803-1890) From Wikipedia, the free encyclopedia
Uchelwr a gwleidydd Cymreig oedd Christopher Rice Mansel Talbot (10 Mai 1803 – 17 Ionawr 1890). Bu'n Aelod Seneddol dros Sir Forgannwg rhwng 1830 a 1890 pan y bu farw - cyfnod o 60 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i unrhyw Aelod Seneddol fod yn ei swydd yn y 19g.[1]
Christopher Rice Mansel Talbot | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mai 1803 Castell Pen-rhys |
Bu farw | 17 Ionawr 1890 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, ffotograffydd, person busnes |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Thomas Mansel Talbot |
Mam | Mary Cole |
Priod | Charlotte Butler |
Plant | Bertha Isabella Talbot, Theodore Mansel Talbot, Emily Charlotte Talbot |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Ar ei ystâd ym Margam, ger Abertawe, cododd waith haearn gan ei ddatblygu'n ddiwydiant llewyrchus, gyda rheilffordd yn arwain ohono i Fae Abertawe; galwyd yr ardal, yn ddiweddarach, yn 'Borth Talbot'. Bu hefyd yn "Arglwydd Morgannwg" o 1848 hyd at 1890.
Priododd Charlotte Butler, merch Richard Butler, iarll 1af Glengall yn Iwerddon ar 28 Rhagfyr 1835.[2] Bu Charlotte farw ym Malta ar 23 Mawrth 1846, lle roeddent ar eu llong Galatea.[3]
Ar ôl y farwolaeth ei fab Theodore mewn damwain ym 1876, roedd ei ferch, Emily, yn aeres yr ystâd Margam.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.