Clefyd cerrig yn yr arennau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Clefyd cerrig yn yr arennau, a elwir hefyd yn wrolithiasis, yw pan fydd darn o ddeunydd solet (carreg aren) yn ffurfio yn y llwybr wrinol. Mae'r rhain fel arfer yn ymddangos yn yr aren ac yn gadael y corff wrth i rywun ollwng dŵr. Gall carreg fechan gael ei brosesu drwy'r corff heb achosi symptomau. Serch hynny, os yw carreg yn tyfu'n fwy na 5 milimetr (0.2 modfedd), mae'n bosib iddo achosi rhwystr sylweddol ym mhibell yr aren ac felly hefyd poen difrifol yn ardaloedd isaf y cefn neu'r abdomen.[1] Gall y fath gyflwr achosi gwaedu neu boen wrth ollwng dŵr ynghyd â chwydu.[2] Bydd tua hanner o ddioddefwyr yn datblygu carreg arall o fewn deng mlynedd.
Math | calculus, urolithiasis |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r rhan fwyaf o gerrig yn ffurfio oherwydd cyfuniad o ffactorau etifeddol ac amgylcheddol. Ymhlith y ffactorau risg y mae lefelau uchel o galsiwm yn yr wrin, gordewdra, bwydydd penodol, rhai meddyginiaethau, atchwanegiadau calsiwm, gorbarathyroidedd, cymalwst a diffyg hylif yn y corff. Os ceir lefelau uchel o fwynau yn yr wrin, yna mae cerrig yn debygol o ddatblygu yn yr aren. Gwneir diagnosis fel arfer ar sail symptomau, profion dŵr, neu ddelweddu meddygol. Mae profion gwaed hefyd yn ddefnyddiol wrth wneud diagnosis. Dosbarthir y cerrig yn aml ar sail eu lleoliad: neffrolithiasis (yn yr aren), ureterolithiasis (ym mhibell yr aren), cystolithiasis (yn y bledren), gellir hefyd eu dosbarthu yn ôl cynnwys (calsiwm ocsalad, asid wrig, styrfeit, systin).
Anogir dioddefwyr i yfed hylifau'n rheolaidd, a hynny fel y cynhyrchir mwy na dau litr o wrin y dydd. Os nad yw'r dull hwnnw'n ddigonol i atal y cyflwr gellir cymryd thïasid diwretig, sitrad neu alopwrinol. Dylid osgoi diodydd meddal sy'n cynnwys asid ffosfforig (er enghraifft cola).[3] Os nad yw'r garreg yn achosi unrhyw symptomau, nid oes angen trin y cyflwr. Fel arall, defnyddir mesurau rheoli poen fel triniaethau cychwynnol, a hynny drwy feddyginiaethau megis cyffuriau gwrthlidiol ansteroidaidd neu opioidau.[4] Gellir cynorthwyo cerrig mwy sylweddol eu maint i basio gyda'r feddyginiaeth tamsulosin,[5] neu mewn rhai achosion cynhelir triniaethau megis lithotripsi tonnau sioc allgorfforol, wreterosgopi, neu neffrolithotomi drwy'r croen.
Mae rhwng 1% a 15% o bobl yn fyd-eang yn cael eu heffeithio gan gerrig yn yr arennau. Yn 2015 nodwyd 22.1 miliwn o achosion ac arweiniodd y cyflwr at oddeutu 16,100 o farwolaethau. Ers y 1970au mae'r cyflwr wedi dod yn fwy cyffredin yn ardaloedd y Gorllewin.[6] Yn gyffredinol, effeithir dynion yn fwy na menywod gan y cyflwr. Mae clefyd cerrig yn yr arennau wedi taro pobl drwy gydol hanes a cheir disgrifiadau o lawdriniaethau dileu yn dyddio yn ôl i'r flwyddyn 600 CC.[7]