gwyddor a ddyfeisiwyd gan Iolo Morgannwg From Wikipedia, the free encyclopedia
System ysgrifennu a luniwyd gan Iolo Morganwg ar ddiwedd y 18g yw Coelbren y Beirdd.
Yn ôl Iolo, dyma'r wyddor hynafol a ddefnyddid gan yr hen Gymry a'r Brythoniaid. Honnai iddynt eu hetifeddu gan y Derwyddon. Mae'r ymadrodd "naddu gwawd" (gwawd="barddoniaeth, cân") yn drosiad a geir yn aml yng ngwaith y beirdd canoloesol o gyfnod y Gogynfeirdd ymlaen. Ysbrydolwyd Iolo gan hyn i gredu fod y beirdd a dysgedigion yr hen Gymry yn cofnodi eu cerddi a'u gwybodaeth mewn llyfrau pren â'r geiriau wedi'u "naddu" ynddynt: dyma'r "Beithynen".
Bu peth amheuaeth am honiad Iolo ar y dechrau, ond yn 1840, ar ôl marwolaeth Iolo, cyhoeddodd ei fab Taliesin y llyfr Traethawd ar Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd a chafodd y Goelbren ei derbyn gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Fe'i gwelir hyd heddiw ar gadeiriau eisteddfodol.
Gwyddys erbyn heddiw nad oes sail hanesyddol o gwbl i'r Goelbren a'i bod yn ffrwyth dychymyg toreithiog Iolo.[1][2][3][4]
Prin iawn iawn y gwelir defnydd o'r Coelbren heddiw. Y lle amlycaf i'w ei gweld yw wedi arsgrifio ar faeni Cylch yr Orsedd a godi wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol cael ei chynnal mewn tref a'r Orsedd gynnal ei sermoniïau yno. Ceir rhain yn y rhanfwyaf o drefi Cymru, fel rheoli mewn parc gyhoeddus neu man agored. Gwelir arysgrifiadau weithiau hefyd ar ddeunydd eraill yn gysylltiedig â'r Orsedd megis mewn dyluniad ar gyfer Cadair yr Eisteddfod neu Goron
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.