From Wikipedia, the free encyclopedia
Sant o Lydaw a flodeuai yn y 5g oedd Kaourintin (Lladin, Corentinus; Ffrangeg a weithiau yn Gymraeg, Corentin) (bu farw tua 460 OC). O dras Frythonaidd, fe'i coffeir yn Llydaw fel sant ac esgob cyntaf Kemper. Ei wylmabsant yw 12 Rhagfyr. Bu'n byw fel meudwy yn Plomodiern ac yn ogystal daeth yn esgob Porzay ar droad y 6g. Fe'i ystyrir yn un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.
Kaourintin | |
---|---|
Ganwyd | 375 Bro-Gerne |
Bu farw | 460 Kemper |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 12 Rhagfyr |
Cysegrir Eglwys Gadeiriol Kemper i Kaourintin. Ei arwyddlun yw pysgodyn. Cyfeiria hyn at y chwedl werin ei fod yn arfer bwyta pysgodyn gwyrthiol a oedd yn byw mewn pwll ger clas y sant; byddai Kaourintin yn bwydo ei hun unwaith bob bydd trwy fwyta darn o'r pysgodyn hwn, a fyddai wedyn yn tyfu'n gyfan eto.
Claddwyd y sant yn eglwys gadeiriol Kemper.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.