Gwleidydd o'r Alban yw Corri Wilson (ganwyd 11 Ebrill 1965) a oedd yn Aelod Seneddol dros Ayr, Carrick a Cumnock rhwng 2015 a 2017; mae'r etholaeth yn Nwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr, yr Alban. Roedd hi'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Corri Wilson | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
Rhagflaenydd | Sandra Osborne |
---|---|
Olynydd | Bill Grant |
Geni | Yr Alban | 11 Ebrill 1965
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Ayr, Carrick a Cumnock |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Plant | 2 |
Alma mater | Prifysgol Gorllewin yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Bu'n weithiwr cymdeithasol am ddeg mlynedd ac yna i Adran Pensiynnau'r Llywodraeth a'r elusen Bernados. Yna bu'n gweithio gyda charcharorion.
Yn etholiadau sirol 2012, etholwyd Wilson ar Gyngor Swydd Ayr, ar gyfer ward y Dwyrain.[1]
Etholiad 2015
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Corri Wilson 25492 o bleidleisiau, sef 48.8% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +30.8 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 11265 pleidlais.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.