From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cromen geodesig yn strwythur hemisfferig sy'n seiliedig ar bolyhedronau geodesig. Maent yn dosbarthu pwysau'r gromen dros y strwythur i gyd a gall wrthsefyll pwysau mawr.
Ychydig wedi'r Rhyfel Mawr y cynlluniwyd y gromen geodesig cyntaf a hynny gan Walther Bauersfeld,[1], prif beiriannydd Cwmni Carl Zeiss. Derbyniodd freinlen ('patent') ar gromen cymharol fach ac fe'i codwyd gan yr adeiladwyr Dykerhoff and Wydmann ar un o adeiladau Zeiss yn Jena, yr Almaen. Yna codwyd cromen tipyn mwy yng Ngorffennaf 1926.[2] 20 mlynedd yn ddiweddarach mabwysiadwyd y syniad yn ddiweddarach gan R. Buckminster Fuller yn yr Unol Daleithiau a fathodd y term "geodesig".[3] Er nad ef oedd dyfeisydd y gromen geodesig, ef sy'n cael y clod am hynny yn yr UDA.
Yn ychwanegol at y ffaith fod y gromen yn hynod o gryf, o'i gymharu a'i bwysau, gyda wynebau'r 'waliau' yn denau ac yn ysgafn, mae cromen fel hyn yn hynod o gadarn, a'i gyfaint yn fawr o'i gymharu ac arwynebedd y waliau trionglog (neu siap hecsagon).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.