Cwpan y Byd Pêl-droed 1958
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 yn Sweden rhwng 8 Mehefin a 29 Mehefin 1958. Dyma oedd y chweched tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal. Llwyddodd Sweden i ennill yr hawl i gynnal y bencampwriaeth yn ystod cyfarfod Cyngres Fifa yn Rio de Janeiro yn ystod Cwpan y Byd 1950 yn Brasil[1] gan ddod â'r arfer o symud y twrnament rhwng yr Americas ac Ewrop am yn ail, i ben.
Världsmästerskapet i Fotboll Sverige 1958 | |
---|---|
Manylion | |
Cynhaliwyd | Sweden |
Dyddiadau | 8 – 29 Mehefin |
Timau | 16 (o 3 conffederasiwn) |
Lleoliad(au) | 12 (mewn 12 dinas) |
Pencampwyr | Brasil |
Ail | Sweden |
Trydydd | Ffrainc |
Pedwerydd | Gorllewin Yr Almaen |
Ystadegau'r Twrnament | |
Gemau | 35 |
Goliau | 126 (3.6 pob gêm) |
Torfeydd | 919,580 (26,274 pob gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | Just Fontaine (13 gôl) |
Roedd Sweden yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol fel y sawl oedd yn cynnal y twrnament, gyda Gorllewin Yr Almaen hefyd yn ymuno â nhw yn y rowndiau terfynol fel y deiliaid. Cafwyd 53 o wledydd eraill yn ceisio am 14 lle yn y rowndiau terfynol - y nifer fwyaf ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1930.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru, Gogledd Iwerddon a'r Undeb Sofietaidd gyrraedd y rowndiau terfynol a hefyd y tro cyntaf - a hyd yma yr unig dro - i bedair gwlad Ynysoedd Prydain - Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr ac Yr Alban - ymddangos yn yr un twrnament.