![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2e/Can_Setter_dog_GFDL.jpg/640px-Can_Setter_dog_GFDL.jpg&w=640&q=50)
Cyfeirgi Gwyddelig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfeirgi sy'n tarddu o Iwerddon yw'r Cyfeirgi Gwyddelig.[1] Datblygwyd ar ddechrau'r 18g, yn debyg o dras y Cyfeirgi Seisnig, Cyfeirgi Gordon, y sbaengi, a'r ci marcio.[2]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Gwlad ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi ![]() |
---|---|
Gwlad | Iwerddon ![]() |
![]() |
Cau
Mae ganddo daldra o 63.5 i 69 cm (25 i 27 modfedd) ac yn pwyso 27 i 32 kg (60 o 70 o bwysau). Mae ganddo gôt loyw, syth a gwastad gyda blew hir ar y clustiau, y coesau, y frest, y bol a'r gynffon, ac o liw coch a gwyn yn wreiddiol ond heddiw yn amlach yn lliw mahogani neu liw castan. Ci deallus a da ei dymer a chyflym wrth ei waith yw'r Cyfeirgi Gwyddelig.[2]