Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agwedd ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.[1] Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus. Mae'r wasg Gymraeg a darlledu yn Gymraeg ar y radio wedi hen sefydlu yng Nghymru, a phresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd wedi tyfu yn y 2000au. Mae teledu Cymraeg yn cael ei ddominyddu gan S4C, yr unig sianel Gymraeg.