Cylch cnwd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cylch cnwd neu ffurfiant cnwd yn batrwm a grëir drwy wastadu cnwd,[1] fel arfer grawnfwyd. Cafodd y term ei ddyfeisio gyntaf yn gynnar yn y 1980au gan Colin Andrews.[2] Mae cylchoedd cnwd wedi eu disgrifio gan Taner Edis, athro ffiseg ym Mhrifysgol Talaith Truman, fel pob achos sydd "o fewn yr ystod o beth a wneir trwy gast ".[3] Maedamcaniaethwyr ymylol yn awgrymu bod achosion naturiol neu darddiad arall-fydol i gylchoedd cnwd.[4] Mae'r damaniaethau hyn yn cynnwys corwyntoedd a mellt, gweithgaredd anifeiliaid, magneteg, a ffenomenau paranormal neu estron. Serch hynny, nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol ar gyfer esboniadau o'r fath, ac mae pob cylch cnwd yn gyson ag achosiaeth ddynol.[5][6][7]
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y cylchoedd cnwd o'r 1970au ymlaen. Mae'r rhai yn honni bod y pamffled newyddion a gyhoeddwyd yn 1678 o dan y pennawd 'The Mowing-Devil: or, Strange News Out of Hartfordshire yn enghraifft hanesyddol o gylch cnwd.[8] Fodd bynnag, nid yw'r ymchwilydd i gylchoedd cnwd, Jim Schnabel, yn ystyried ei fod yn gynsail hanesyddol oherwydd ei fod yn disgrifio'r coesynnau fel rhai wedi'u torri yn hytrach na'u plygu.[8]
Ychydig iawn o astudiaethau gwyddonol a gafwyd ohonynt. Nid yw cylchoedd yn y Deyrnas Unedig yn cael eu dosbarthu ar hap ar draws y dirwedd ond maent yn ymddangos yn agos at ffyrdd, ardaloedd o boblogaeth ganolig i ddwys a henebion treftadaeth ddiwylliannol, fel Côr y Cewri neu Avebury.[9] Ym 1991, cymerodd dau gyfreithiwr, Doug Bower and Dave Chorley, glod am greu nifer o gylchoedd ledled Lloegr ar ôl i ymchwilydd ddisgrifio un o'u cylchoedd fel rhywbeth amhosibl i'w wneud â llaw.[10]
Caiff ffurfiannau fel arfer eu creu dros nos,[11] er y dywedir bod rhai wedi ymddangos yn ystod y dydd.[12] Yn wahanol i gylchoedd neu ffurfiannau cnwd, gall gweddillion archeolegol achosi olion cnwd yn y caeau mewn siapiau cylchoedd a sgwariau, ond nid ydynt yn ymddangos dros nos, ac maent bob amser yn yr un mannau bob blwyddyn.