Cymdeithas Bêl-droed Lloegr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (Saesneg: The Football Association (FA)) ydy corff llywodraethol pêl-droed yn Lloegr, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Fe'i ffurfiwyd ym 1863 sy'n golygu ei fod y gymdeithas bêl-droed hynnaf yn y byd ac fel y gymdeithas gyntaf erioed, nid yw'r gair English yn ymddangos yn nheitl swyddogol y gymdeithas.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Label brodorol ...
Enghraifft o'r canlynol | ffederasiwn pêl-droed, gwefan |
---|---|
Label brodorol | The Football Association |
Dechrau/Sefydlu | 1863 |
Prif weithredwr | Mark Bullingham |
Aelod o'r canlynol | Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol, Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed, UEFA |
Isgwmni/au | Wembley National Stadium Ltd |
Rhiant sefydliad | UEFA |
Pencadlys | Lloegr |
Enw brodorol | The Football Association |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://thefa.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae'r FA yn aelodau o UEFA a FIFA ac â sedd barhaol ar y Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB) sy'n gyfrifol am lunio rheolau'r gamp. Mae'r FA yn aelod o Gymdeithas Olympaidd Prydain Fawr (BOA), sy'n golygu mai'r FA sydd yn gyfrifol am dimau pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd[1].