Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig 2021 (neu COP26) yn gynhadledd ryngwladol ar newid hinsawdd sydd yn cael ei gynnal yn Glasgow, yr Alban, y Deyrnas Unedig rhwng Hydref 31 a Thachwedd 12 2021. Arlywydd y gynhadledd yw'r gwleidydd ceidwadol ac aelod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig Alok Sharma. Yn wreiddiol roedd disgwyl i COP26 ddigwydd yn 2020 ond cafodd ei oedi am flwyddyn oherwydd Pandemig COVID-19.
![]() | |
Dyddiad | 31 Hydref - 12 Tachwedd 2021 |
---|---|
Cyfesurynnau | 55.86085°N 4.28812°W / 55.86085; -4.28812 |
Arlywydd | Alok Sharma |
Gwefan | https://ukcop26.org/it ukcop26.org/, https://ukcop26.org/it/, https://ukcop26.org/it |
Mae disgwyl i'r gynhadledd adeiladu ar gytundebau COP21 ym Mharis yn 2017 i gadw codiad tymheredd byd-eang i lai na 1.5°C.[1] Mae'r gwledydd hefyd yn bwriadu cytuno i orffen datgoedwigo erbyn 2030[2] ac i nifer o wledydd cytuno i fod yn sero net carbon erbyn 2050, gydag India yn cytuno i wneud hyn erbyn 2070. [3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/SECC_panorama.jpg/640px-SECC_panorama.jpg)
Er nad oedd Brenhines Elisabeth II neu Arlywydd China Xi Jinping yn bresennol, mae nifer o wleidyddion ac amgylcheddwyr pwysig wedi mynychu. Mae'r rhain yn cynnwys Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson, Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, Prif Weinidog India Narendra Modi, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a David Attenborough. Bu'r ymgyrchydd hinsawdd ifanc Greta Thunberg hefyd yn Glasgow, er nad oedd hi wedi ei gwahodd yn swyddogol i'r gynhadledd.[4]