Cynllwyn i fomio Maes Awyr Rhyngwladol JFK (2007)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynllwyn Islamiaeth derfysgol honedig i chwythu lan system o danciau cyflenwi tanwydd awyren a llinellau pibellau sy'n darparu tanwydd ar gyfer Maes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy (JFK) yn Queens, Efrog Newydd oedd cynllwyn ymosodiad ar Faes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy yn 2007. Mae'r pibellau hyn yn teithio trwodd dan ddaear Dinas Efrog Newydd yn ardaloedd gyda dwysedd poblogaeth uchel. Datgelwyd y cynllwyn honedig pan recriwtiwyd swyddog-heddlu cudd i'r gell derfysgol frodorol. Y rhai a ddrwgdybir yw Russell Defreitas, dinesydd Americanaidd a brodor o Gaiana oedd yn yr arweinydd honedig ac yn gweithio yn y maes awyr am gyfnod; Abdul Kadir, dinesydd Gaianaidd a chyn-aelod o Gynulliad Cenedlaethol Guyana; Kareem Ibrahim, dinesydd Trinitobagaidd; ac Abdel Nur, dinesydd Gaianaidd ac ewythr y cyn-bencampwr paffio welterweight y byd Andrew "Six Heads" Lewis.[1] Arestiwyd Defreitas yn Brooklyn, Efrog Newydd. Arestiwyd Kadir ac Ibrahim yn Nhrinidad ar 3 Mehefin, 2007. Ildiodd Nur i heddlu ddau ddiwrnod wedyn yn Nhrinidad.[2] Ar 29 Mehefin ditiwyd y pedwar dyn ar gyhuddiadau o gynllwynio i "achosi marwolaeth, anaf corfforol difrifol a dinistr eang" yn y maes awyr.[3] Ar 6 Awst gorchmynodd farnwr i dri o'r cynllwynwyr honedig cael eu hestraddodi i'r Unol Daleithiau.[4]
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad |
---|---|
Lleoliad | Dinas Efrog Newydd |
Rhybudd! | Mae safon iaith a mynegiant yr erthygl hon yn annerbyniol ac mae angen ei gwella. Gallai rhannau o'r erthygl, neu'r erthygl gyfan, fod yn anodd i'w deall oherwydd camgymeriadau gramadegol, camsillafu, termau anghywir neu wallau ieithyddol eraill. Mae croeso i chi fynd ati i gywiro'r gwallau hyn. Mae'r nodyn yma yn rhoi'r erthygl yn y categori Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Mewn sgwrs gofnodedig, honnir i Russell Defreitas dweud i hysbysydd "Unrhyw amser 'dach chi'n taro Kennedy, yw'r peth mwyaf niwediol gallech chi wneud i'r Unol Daleithiau. I daro John F. Kennedy, wow . . . Maen nhw'n caru JFK – mae'n like the man. Os 'dach chi'n taro hwnna, bydd yr holl wlad yn galaru. Mae'n fel gallech chi lladd y dyn dwywaith." [5] Honnir i Defreitas weld arfau a thaflegrau cael eu cludo i Israel ac roedd yn teimlo bydd rhain yn cael eu defnyddio i niweidio Mwslimiaid.
Gwanaethpwyd wyliadwriaeth ymestynnol o'r targedau, yn cynnwys defnydd ffotograffiau lloerenni, ac ymdrechion i gysylltu â grŵp Islamiaeth derfysgol arall. Ni chafodd unrhyw ffrwydron eu prynu.
Dywedodd ffynhonnell o heddlu Dinas Efrog Newydd i Newsday bod ymchwilwyr yn archwilio i gysylltiad posib rhwng y cynllwyn ac Iran, oherwydd roedd Abdul Kadir yn bwriadu ymweld â'r wlad honno. Yn ôl adroddiadau, mae heddlu yn Nhrinidad yn ymchwilio i os oedd gan Kareem Ibrahim cysylltiadau ag Irac ac Iran.[6] Ar 6 Awst ymddangosodd bydd awdurdodau Americanaidd yn honni roedd y cynllwynwyr yn bwriadu ceisio cymorth gan Iran.[4]
Roedd gan y rhai a ddrwgdybir yn y cynllwyn proffil gwahanol i gymharu â'r terfysgwyr honedig mewn cynllwynion Islamiaeth derfysgol cynt.[angen ffynhonnell] Mae oedrannau'r rhai a ddrwgdybir yn amrywio o 51 i 63 ac roeddent o'r ardal Garibïaidd.
Mae'r hysbysydd yn yr achos yn ddeliwr cocên a wnaeth cydweithio gydag ymchwilwyr ar ôl cael ei euogfarnu o gael werth tua $2 miliwn o gocên yn ei eiddo yn 2003, yn ôl dogfennau llys a bostiwyd ar thesmokinggun.com. Disgrifir y dyn oed 36 yn y dogfennau fel cyn-aelod o gang cyffuriau treisgar a euogfarnwyd yn 1996 o werthu cocên a chrac a bod yn rhan o gynllwyn i lofruddio "barwn cyffuriau" gwrthwynebol. Goroesodd y gwrthwynebydd yr ymgais i'w ladd, yn ôl yr achwyn ffederal yn yr achos masnachu a racetirio cyffuriau. Ar ôl y postiad ar y we dywedodd James Margolin, llefarydd dros yr FBI: "Rydym yn pryderu am ddiogelwch y ffynhonnell ac yn cymryd mesurau i warchod fo."[7]