![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/55/European_monarchies_by_succession.png/640px-European_monarchies_by_succession.png&w=640&q=50)
Cyntafanedigaeth
Dull, cyfraith, confensiwn etifeddiaeth tir neu deyrnas gyda'r mab hynaf yn etifedd di-ofyn. Ceir amrywiaethau. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyntafanedigaeth [1][2] (Saesneg: primogeniture o'r Lladin am "cyntaf-anedig") yw'r system o etifeddiaeth gan y cyntafanedig, fel arfer y mab hynaf.[3] Yn Lloegr ffiwdal (yn wahanol i'r drefn o dan Cyfraith Hywel yng Nghymru) a systemau cyfreithiol eraill, y mab cyntaf-anedig cyfreithlon sy'n cael yr hawl gyntaf i etifeddu eiddo.[4] Mae ei hawliad yn gryfach na phob merch, mab iau a hyd yn oed meibion hynaf anghyfreithlon. Y rheol yw y bydd yr hynaf bob amser yn cael yr hawliad cyntaf. Os nad oes mab, bydd pob un o'r merched yn etifeddu cyfran gyfartal o'r ystâd.[4] Os nad oes plant, mae'r eiddo yn aml yn cael ei etifeddu gan y brawd hynaf. Ymhlith brodyr a chwiorydd, mae meibion yn etifeddu cyn merched ac yn y blaen.
Enghraifft o'r canlynol | norm etifeddiaeth ![]() |
---|---|
Math | Etifeddiaeth ![]() |
Y gwrthwyneb | olafanedigaeth ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/55/European_monarchies_by_succession.png/640px-European_monarchies_by_succession.png)
Ceir y cofnod cynharaf o'r gair (fel cyntaf-anedigaeth) ym Meibl William Morgan yn 1588 yn llyfr Genesis.[5]