![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/05/2008_Sichuan_earthquake_map_no_labels.svg/langcy-640px-2008_Sichuan_earthquake_map_no_labels.svg.png&w=640&q=50)
Daeargryn Sichuan 2008
From Wikipedia, the free encyclopedia
Daeargryn ar raddfa 7.9 Mw oedd Daeargryn Sichuan, 2008 (Tsieineeg: 四川大地震; Pinyin: Sìchuān dà dìzhèn). Digwyddodd am 14:28:01.42 Amser Safonol Tsieina (06:28:01.42 UTC) ar 12 Mai 2008 yn nhalaith Sichuan, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Mae wedi cael ei galw yn Ddaeargryn Wenchuan yn Tsieina (Tsieineeg: 汶川大地震; Pinyin: Wènchuān dà dìzhèn), am fod canolbwynt y daeargryn yn Swydd Wenchuan, Sichuan. Roedd y canolbwynt 90 km i'r gogledd-orllewin o Chengdu, prifddinas Sichuan, ar ddyfnder o 19 km dan wyneb y ddaear.[1] Teimlwyd y daeargryn mor bell i ffwrdd â Beijing a Shanghai, lle siglodd adeiladau gan y cryndod.[2] Teimlwyd y daeargryn mewn gwledydd cyfagos yn ogystal.
Rhagor o wybodaeth Ardal, Marwolaethau (amcangyfrif) ...
Ardal | Marwolaethau (amcangyfrif) | |
---|---|---|
Sichuan | Mianyang | 8,113[3] |
Deyang | 6,701[4] | |
Chengdu | 1,215[5] | |
Guangyuan | 1,479[5] | |
Ngawa | 161[5] | |
Eraill | 3,276 | |
Cyfanswm | 19,509 | |
Gansu | 365[6] | |
Shaanxi | 108[7] | |
Chongqing | 14[5] | |
Henan | 2[5] | |
Yunnan | 1[5] | |
Cyfanswf (amcangyfrif): | 19,999 [5] |
Cau
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dyddiad ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | Daeargryn ![]() |
---|---|
Dyddiad | 12 Mai 2008 ![]() |
Lladdwyd | 69,195 ![]() |
Lleoliad | Sichuan ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
![]() |
Cau