gofodwr o Ganada From Wikipedia, the free encyclopedia
Athro prifysgol, meddyg o Ganada a gofodwr wedi ymddeol o CSA yw Dafydd Rhys Williams (ganwyd 16 Mai 1954). Bu yn y gofod am 687 awr, ac yn "cerdded" y tu allan i'r llong ofod am 17 awr a 47 munud. Mae hefyd yn beilot trwyddedig ac yn nofiwr tanddwr.
Dafydd Williams | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mai 1954 Saskatoon |
Dinasyddiaeth | Canada |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gofodwr, meddyg |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Medal Gofodwyr NASA, NASA Outstanding Leadership Medal |
Cafodd ei eni yn Saskatoon, Saskatchewan yng Ngorllewin Canada ond ganwyd ei dad yn Bargoed, Cymru.[1] Derbyniodd radd B.Sc o Prifysgol McGill, Montreal, ym 1976 a gradd meistr mewn Llawfeddygaeth ym 1983. Dechreuodd weithio i Asiantaeth Ofod Canada ym Mehefin, 1992. Gwasanaethodd i NASA o Orffennaf 1998 hyd Tachwedd 2002 fel Cyfarwyddwr Gwyddorau Bywyd Gofod yn Johnson Space Center.
Gwnaeth gyfweliad teledu ar y BBC, lle siaradodd Gymraeg, ac aeth a Chap Rygbi Rhyngwladol a enillwyd gan Gareth Edwards, Baner y Ddraig Goch[2] a gonc Mistar Urdd gydag ef ar daith i'r gofod[3].
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.