David Soul
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd David Soul (ganwyd David Richard Solberg ; 28 Awst 1943 – 4 Ionawr 2024) yn ganwr ac actor Americanaidd. Roedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu’r Ditectif Kenneth “Hutch” Hutchinson yn y gyfres deledu Americanaidd Starsky & Hutch o 1975 i 1979.
David Soul | |
---|---|
Ffugenw | David Soul |
Ganwyd | David Richard Solberg 28 Awst 1943 Chicago |
Bu farw | 4 Ionawr 2024 Llundain |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, actor llwyfan, canwr-gyfansoddwr, cyfarwyddwr, actor |
Adnabyddus am | Starsky & Hutch |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Cartre'r teulu | Norwy |
Priod | Unknown, Karen Carlson, Patti Carnel, Julia Nickson-Soul, Unknown |
Partner | Alexa Hamilton |
Plant | China Soul |
Gwefan | http://www.davidsoul.com |
Roedd ei rolau nodedig eraill yn cynnwys Joshua yn y gyfres Here Come the Brides o 1968 i 1970 a'r prif ran yn y ffilm deledu 1979 Salem's Lot. Rôl ffilm nodedig arall oedd John Davis yn y ffilm Magnum Force (1973) gyda Clint Eastwood.
Cafodd lwyddiant hefyd fel canwr, gan gael sengl rhif un ar yr UD Billboard Hot 100 gyda "Don't Give Up on Us". Cyrhaeddodd y sengl rhif un yn y DU a Chanada hefyd. Cafodd Soul sengl rhif un ychwanegol ar Siart Senglau'r DU gyda "Silver Lady" (1977).[1] Yn y 1990au symudodd ef i'r Deyrnas Unedig a chael llwyddiant o'r newydd ar lwyfan y West End. Gwnaeth ymddangosiadau cameo hefyd mewn sioeau teledu Prydeinig, gan gynnwys Little Britain, Holby City a Lewis.[2][3]
Cafodd Soul ei eni yn Chicago, Illinois, Unol Daleithiau America,[4] ac roedd o dras Norwyaidd. Roedd ei fam, June Joanne (Nelson), yn athrawes ac roedd ei dad, Dr. Richard W. Solberg, yn weinidog Lutheraidd ac yn ysgolhaig.[5][6] Yr oedd dau daid Soul yn efengylwyr.[7] Symudodd y teulu yn aml yn ystod ieuenctid Soul a daeth yn rhugl yn Almaeneg a Sbaeneg.[5] Aeth ei frawd Daniel yn weinidog Lutheraidd.[5]
Priododd bum gwaith. Priododd ei bedwerydd gwraig, yr actores Julia Nickson ym 1987. Roedd gan y cwpl ferch, China Soul, sy'n gantores/cyfansoddwr caneuon. Priododd ei bumed gwraig, Helen Snell yn 2010 a symudodd i fyw yn Llundain.[8]