![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/48/EdinburghSouthConstituency.svg/langcy-640px-EdinburghSouthConstituency.svg.png&w=640&q=50)
De Caeredin (etholaeth seneddol y DU)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae De Caeredin yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1885 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae'r etholaeth yn un o 5 o fewn Dinas Caeredin.
Ffeithiau sydyn Etholaeth gyfredol, Ffurfiwyd ...
De Caeredin | |
---|---|
Etholaeth Bwrdeisdref ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau De Caeredin yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1885 |
Aelod Seneddol | Ian Murray Llafur yr Alban |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Caeredin |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cau
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Ian Murray, Llafur yr Alban. Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.