Diniweidrwydd Mwslemiaid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Diniweidrwydd Mwslemiaid (Saesneg: Innocence of Muslims, Arabeg: براءة المسلمين) yn ffilm fer Islamoffobig dadleuol a ysgrifennwyd gan Nakoula Basseley Nakoula, cyfarwyddwr ffilm Cristnogol o'r Aifft. Roedd y ffilm yn wreiddiol yn Saesneg ac yn ddiweddarach fe'i trosleisiwyd i Arabeg. Uwchlwythwyd dwy fersiwn o'r ffilm i YouTube yng Ngorffennaf 2012, Bywyd Go Iawn Muhammad a Trelar Ffilm Muhammad. Rhyddhawyd y fideos Arabeg yn gynnar ym Medi 2012, gyda chynnwys gwrth-Islamaidd yn cael ei ychwanegu ar ôl ei gynhyrchu, trwy ddybio a throsleisio heb yn wybod i'r actorion. Achosodd y ffilmiau brotestiadau treisgar ar draws y Dwyrain Canol, Gogledd Affrica, Maleisia, Awstralia, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a'r Iseldiroedd.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Lliw/iau ...
Enghraifft o'r canlynol | ffilm, video work |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | Gorffennaf 2012 |
Genre | ffilm ddychanol |
Lleoliad y gwaith | Yr Aifft |
Hyd | 14 munud |
Cyfarwyddwr | Nakoula Basseley Nakoula |
Cynhyrchydd/wyr | Nakoula Basseley Nakoula |
Iaith wreiddiol | Saesneg [1][2][3] |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau