Dugiaeth Württemberg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dugiaeth yn ne-orllewin yr Ymerodraeth Lân Rufeinig oedd Dugiaeth Württemberg (Almaeneg: Herzogtum Württemberg) a fodolai o 1495 i 1803.[1]
Math | state in the Holy Roman Empire, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, dugiaeth, gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Stuttgart |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swabian |
Daearyddiaeth | |
Sir | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Gwlad | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Crefydd/Enwad | yr Eglwys Gatholig Rufeinig |
Dyrchafwyd Iarllaeth Württemberg yn ddugiaeth ym 1495. Daeth y Dug Ulrich I, a fu'n teyrnasu am 47 mlynedd, yn ddeiliad i Dŷ Hapsbwrg ym 1534, a chyflwynwyd Lwtheriaeth i'r ddugiaeth yn y cyfnod hwn, a chymerwyd tiroedd oddi ar yr Eglwys Gatholig. Sefydlwyd eglwys wladol Brotestannaidd gan y Dug Christoph I.[2]
Parhaodd y ddugiaeth dan dra-arglwyddiaeth y Hapsbwrgiaid nes teyrnasiad y Dug Friedrich I ar ddechrau'r 17g. Câi Württemberg ei difrodi gan y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain (1618–48), ac o 1688 i 1693 byddai'r Ffrancod yn cynnal sawl cyrch ar y diriogaeth yn ystod y Rhyfel Naw Mlynedd. Dyrchafwyd Dugiaeth Württemberg yn etholyddiaeth gan Napoleon ym 1803.