gwleidydd (1910-1995) From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Edda Mussolini (1 Medi 1910 - 9 Ebrill 1995) yn ferch i'r unben o'r Eidal Benito Mussolini. Priododd â Gweinidog Materion Tramor yr Eidal, Galeazzo Ciano. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwirfoddolodd Edda i wasanaethu gyda'r Groes Goch o'r Eidal. Roedd hi ar llong ysbyty gafodd ei suddo gan awyrennau o Loegr ond goroesodd a pharhaodd i weithio i'r Groes Goch tan 1943. Yng Ngorffennaf 1943, pleidleisiodd ei gŵr, Galeazzo Ciano, yn erbyn Mussolini yn y Prif Gyngor Ffasgaidd. Cafodd ei arestio, ei roi mewn llys barn, a'i ddienyddio am frad. Dihangodd Edda Ciano i'r Swistir gan smyglo oddi yno ddyddiaduron ei gŵr a sgwennwyd yn ystod y rhyfel. Cafodd ei harestio a'i chadw yn y carchar ar Ynys Lipari ar ôl dychwelyd i'r Eidal. Ar 20 Rhagfyr 1945, fe'i dedfrydwyd i ddwy flynedd o garchar am gynorthwyo Ffasgaeth.[1]
Edda Mussolini | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1910 Forlì |
Bu farw | 9 Ebrill 1995 Rhufain |
Man preswyl | Villa Torlonia |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Galwedigaeth | gwleidydd, cymdeithaswr |
Tad | Benito Mussolini |
Mam | Rachele Mussolini |
Priod | Galeazzo Ciano |
Plant | Fabrizio Ciano, Marzio Ciano |
Perthnasau | Arnaldo Mussolini, Edvige Mussolini, Anna Maria Villani Scicolone, Carla Maria Puccini, Alessandro Italico Mussolini, Vito Mussolini, Alessandra Mussolini |
Gwobr/au | Medal Dewrder Milwrol |
Ganwyd hi yn Forlì yn 1910 a bu farw yn Rhufain yn 1995. Ei priod oedd Galeazzo Ciano.[2][3][4]
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Edda Mussolini yn ystod ei hoes, gan gynnwys;
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.