datblygydd radar, a radio-seryddwr cynnar From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddonydd a dyfeisiwr o Gymru oedd Edward George Bowen CBE (14 Ionawr 1911 – 12 Awst 1991)[1]
Ganwyd yn Y Cocyd ger Abertawe, ble'r aeth i'r coleg. Rhwng 1933 ac 1934 bu'n gweithio ar y darganfyddwr cyfeiriad gyda'r 'cathode-ray' yn Slough ble y daeth dan ddylanwad Robert Watson-Watt. Tua diwedd 1935, symudodd y tîm cyfan i Ganolfan Ymchwil yr Awyrlu ('The Air Ministry Research Station') yn 'Bawdsey Manor', Suffolk lle gweithiwyd ar y 'radar' newydd. Bowen fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar ar gyfer awyrennau.
Yn 1940 aeth i'r UDA a Chanada i rannu gwybodaeth. Cludodd ei cavity magnetron, sef rhan hanfodol o'r radar-tonnau-centimetr gydag ef. Gweithiodd ymhellach ar ei ddyfais yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn Ne Cymru Newydd.
Ymddeolodd ym 1971. Derbyniodd OBE yn 1941, Medal Rhyddid America ym 1947 a CBE yn 1962.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.