eglwys yn Llanynys, Sir Ddinbych From Wikipedia, the free encyclopedia
Eglwys hynafol o'r 13g sydd wedi'i dynodi'n Radd I gan Cadw yw Eglwys Sant Saeran, Llanynys, Sir Ddinbych, a arferid ei alw'n Eglwys Llanfawr.[1] Eglwys Sant Saeran yw un o eglwysi mwyaf deniadol a hynafol yr ardal. Saif mewn pentref tawel sy’n cynnwys hen dafarn ac ambell dŷ. Eto i gyd, hon oedd mam-eglwys de Dyffryn Clwyd, un o'r fwyaf yn yr ardal, a bu, ar un adeg, yn gartref i ‘glas’ (sef cymuned grefyddol Gymraeg), a sefydlwyd efallai yn y 6g ac a gysegrwyd i’r esgob-sant Saeran sydd a'i ŵyl ar y 13eg o Ionawr. Ni wyddys llawer amdano bellach ond mae ei enw hefyd i'w gael yn yr enw Ffynnon Sarah (a nodwyd gan Edward Lhwyd fel "Saeran") ym mhentref Derwen.
Mae tu mewn yr eglwys yn fawr ac mae hyn yn gydnaws â phwysigrwydd yr eglwys ar un adeg, gyda'i chysylltiadau agos ag Esgobion Bangor, a fu’n berchen arni am gyfnod hir. Mae ganddi ddau gorff, fel cynifer o eglwysi Sir Ddinbych, ynghyd â dau do gwych â thrawstiau gordd sy’n dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Mae’r colofnau rhychiog o goed rhwng y ddau gorff yn fwy anghyffredin ac yn llawer mwy diweddar, gan eu bod yn dyddio o gyfnod yr adnewyddu ym 1768.
Y nodwedd hynaf sy’n perthyn i’r eglwys bresennol yw’r porth gorllewinol sy’n dyddio o’r 13g; hyd yn ddiweddar, nid oedd yn cael ei ddefnyddio ac roedd wedi'i orchuddio ag eiddew. Fodd bynnag, yn 2015 gorffennwyd prosiect atgyweirio'r eglwys, a gostiodd £4.5 miliwn. Gwelir y porth wrth fynd i mewn i’r fynwent gyda’i choed yw hynafol. Mae’r porth wedi ei gerfio’n gain ac yn dyddio o gyfnod y Tuduriaid; gwelir y dyddiad 1544 (mewn Lladin) uwchben y porth.[2] Dyddiwyd y drws yn yr ochr gorllewinol i 1220.
Mae'r drws derw yntau'n hynafol, gyda'r dyddiadau 17 Mawrth 1598 ac Ebrill 1602 wedi'u cerfio ynddo. Ceir dau fath o garreg yma: un lleol, lwyd o'r afon a charreg goch (tywodfaen) o chwarel yn Hirwaen.
Yn union gyferbyn â’r drws y mae prif ogoniant Eglwys Sant Saeran, sef murlun anferthol o’r 15g o Sant Cristoffer. Mae'n mesur 12 troedfedd (3.7m) o hyd a 9 troedfedd (2.8m) o lled.[3] Ail-ddarganfuwyd y murlun canoloesol hwn o dan y plastr ar 22 Mawrth 1967 gan y Parch L. Parry Jones – dyma'r un gorau o ddigon yng Ngogledd Cymru. Yn ôl y chwedl, yr oedd y sant yn gryf iawn a gweithiai yn cario pobl dros afon llydan; yn y llun, fe’i dangosir yn cario’r baban Iesu ar draws afon, gyda gwialen flodeuog yn ei law a haig o bysgod o gwmpas ei draed. Sant Cristoffer (sef ‘cariwr Crist’) yw nawddsant teithwyr a châi ei beintio’n aml gyferbyn â drysau eglwysi, lle y gallai teithwyr ei weld a thrwy hynny credid na fyddent yn ‘perlewygu nac yn syrthio’ yn ystod y diwrnod hwnnw. Mae’r gred yn parhau ar ffurf modrwyau allweddi a 'thrysorau San Christopher eraill mewn ceir heddiw. Credir fod y llun yn dyddio i oes Owain Glyn Dŵr (1400-1430). Mae'n bosib mai'r un arlunydd a wnaeth y murlun o Ddydd y Farn ar fwa cangell Eglwys San Silyn, am fod y ddau lun yn debyg o ran arddull.[3] Adferwyd y llun gan Eve Baker, Llundain ac eraill.
Arferai fod uwch ben y llun destun Cymraeg; ond fe'i diogelwyd drwy eu trosglwyddo i fan saffach yn yr eglwys. Dyma'r ysgrifen a ddaw o lyfr Haggai: 'Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tý hwn yn anghyfannedd? Esgynwch i'r mynydd a dygwch goed ac adiladwch y tý; mi a fyddaf fodlon ynddo ac y'm gogoneddir medd yr Arglwydd.' Sgwennwyd y geiriau hyn gryn dipyn ar ôl paentio'r llun - tua'r 17g.
Gerllaw’r peintiad y mae dau drysor canoloesol a phwysig arall: beddrod-ddelw tolciog o offeriad sef, o bosibl, yr Esgob ap Richard o Fangor (a fu farw yma ym 1267) a gallai’r ffigwr o esgob meitrog ar y garreg chweochrog gynrychioli Sant Saeran ei hun. Ymddengys fod y ffigwr bychan, gyda’i ffon fugail yn ei law, yn sefyll ar ben arth ac ar ochr arall y garreg y mae llun o’r croeshoeliad. Hyd yn ddiweddar, safai yn y fynwent, o bosib yn dynodi bedd y sant neu gysegrfan: dywedir fod y garreg hon yn dyddio o’r 14g, ond gallai fod yn llawer hŷn na hyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.