![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ce/St_Mary%2527s_Church%252C_Cilcain.jpeg/640px-St_Mary%2527s_Church%252C_Cilcain.jpeg&w=640&q=50)
Eglwys y Santes Fair, Cilcain
eglwys yng Nghilcain, Sir y Fflint / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Eglwys y Santes Fair (neu weithiau: Eglwys Fair) yn adeilad rhestredig Gradd I sydd wedi'i lleoli yng nghanol pentref Cilcain ym mhlwyf Cilcain, Nannerch a Rhydymwyn, Sir y Fflint, Cymru (Cyfeirnod grid: SJ17646516).[1][2] Fel y rhan fwyaf o eglwysi'r ardal, ceir dwy siambr ac mae ei tho Canoloesol a'r gerfiadau pren o angylion a chreaduriaid yn nodedig.
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cilcain ![]() |
Sir | Cilcain ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 223.6 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.1772°N 3.23377°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig Seisnig ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Cysegrwyd i | y Forwyn Fair ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy ![]() |
Ceir y cofnod cyntaf am yr eglwys hon yn 1291 yn Llyfr Trethi Lincoln. Ychwanegwyd y tŵr yn y 15g. Llosgwyd rhan o'r to yn 1532 a chodwyd to newydd yn 1746 a chredir ar lafar i'r to hwn gael ei gludo o Abaty Dinas Basing, er nad oes tystiolaeth o hynny. Mae'n bosibl i'r galeri gorllewinol hefyd gael ei godi tua'r adeg hon. Ailadeiladwyd a thrwsiwyd rhannau o'r eglwys hefyd rhwng 1845-46 dan oruchwyliaeth Ambrose Poynter.[3][4]
- Lleoliad yn y pentref
- Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg, dyddiedig 1809
- Beddrod o'r 14g
- Porth yr eglwys, a godwyd cyn 1720
- Y tu allan, gyda ffenest liw ar y chwith o'r 17g
- Tuag at yr allor