From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae eingion y glust yn un o'r esgyrnynnau. Mae'n asgwrn bach siâp eingion yn y glust ganol sy'n cysylltu â morthwyl y glust ar un ochr a gwarthol y glust efo'r llall. Mae'n trosglwyddo'r dirgryniadau sŵn o'r morthwyl ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol. Weithiau bydd yr asgwrn yn cael ei alw'n incws o'r Lladin am eingion incus[1].
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | esgyrnyn |
Rhan o | esgyrnyn |
Cysylltir gyda | morthwyl y glust, Gwarthol y glust, posterior incudal ligament |
Yn cynnwys | short limb of incus, body of incus, lenticular process of incus, articular facet for malleus, long limb of incus, articular facet for stapes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr eingion yw'r ail o'r esgyrnynnau, tri asgwrn yn y glust ganol sy'n gweithredu i drosglwyddo sain. Mae ganddi aelod hir ac aelod byr sy'n ymwthio o'i bwynt cymalu â'r morthwyl.
Mae'r eingion yn un o dri esgyrnyn yn y glust ganol sy'n trosglwyddo sain o'r drwm y glust i'r glust fewnol. Mae wedi ei gysylltu yn fras a'r morthwyl. Mae'n derbyn dirgryniadau o'r morthwyl yn ochrol ac yn eu trosglwyddo i'r gwarthol yn ganolog.
Mae sawl ffynhonnell yn priodoli darganfyddiad eingion y glust i'r anatomegydd a'r athronydd Alessandro Achillini. Mae'r disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r morthwyl gan Berengario da Carpi yn ei lyfr Commentaria super anatomia Mundini (1521)[2]. Disgrifiodd llyfr Niccolo Massa Liber introductorius anatomiae[3] yr eingion mewn ychydig mwy o fanylder ond roedd ef yn disgrifio'r asgwrn fel ail forthwyl. Andreas Vesalius, yn ei lyfr De Humani Corporis Fabrica, oedd y cyntaf i gymharu siâp yr asgwrn i eingion, gan rhoi ei enw cyfredol iddi.[4] Ym 1615 honnodd Pieter Paaw bod aelod hir yr eingion yn asgwrn ar wahân ac yn bedwerydd esgyrnyn[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.