Eingl-Indiaid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pobl o dras gymysg Indiaidd a Phrydeinig yw'r Eingl-Indiaid.[6] Yn hanesyddol, ystyr y term oedd pobl o dras Brydeinig yn byw yn isgyfandir India yn ystod y Raj (sydd heddiw yn India, Pacistan, Bangladesh, a Byrma). Heddiw defnyddir y term yn aml i ddisgrifio pobl o ethnigrwydd cymysg Indiaidd a Phrydeinig.[7][8][9][10]
Anglo-Indians | |
---|---|
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol | |
India 80,000 - 125,000[1][2] yn bennaf Kolkata, Delhi, Mumbai, Lucknow, Hyderabad, Secunderabad, a Bangalore.[2] Y Deyrnas Unedig ~80,000[3] Unol Daleithiau America Seland Newydd Bangladesh Maleisia Singapôr | |
Ieithoedd | |
Saesneg[2] | |
Crefydd | |
Protestaniaeth (yn bennaf Anglicaniaeth, Presbyteriaeth, Methodistiaeth a Bedyddiaeth),[5] lleiafrif o Babyddion. | |
Grwpiau ethnig perthynol | |
Indo-Ariaid, Drafidiaid, Prydeinwyr, Eingl-Fyrmaniaid, Burgheriaid, Kristangiaid, Indo, Ewrasiaid Singaporaidd, Macanesiaid |
Yn ôl Erthygl 366(2) yng Nghyfansoddiad India, mae Eingl-Indiad yn berson, o dras Ewropeaidd yn ei linach wrywaidd (h.y. tad, tad ei dad, ayyb), a anwyd neu sy'n byw yn India.[11][12][13] Sylwer mae'r diffiniad hwn yn cynnwys unigolion o dras Ewropeaidd ac nid Prydeinig yn unig.
Gostyngodd y boblogaeth Eingl-Indiaidd yn India o tua 500,000 ym 1947 i lai na 150,000 yn 2010. Ymfudodd nifer ohonynt i'r Deyrnas Unedig, Awstralia, Canada, De Affrica, Seland Newydd, a'r Unol Daleithiau.[14]