Eluned King
Seiclwraig o Gymru / From Wikipedia, the free encyclopedia
Seiclwraig o Gymru yw Eluned King (ganwyd 1 Awst 2002).[1] Mae hi'n dod o Abertawe yn wreiddiol ac aeth i Ysgol Gyfun Gŵyr. Ers 2020 mae hi wedi bod yn byw ym Manceinion lle mae'n hyfforddi gyda uwch academi seiclo Prydain.[2]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Eluned King | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 2002 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Drops |
Cau
Mae hi wedi bod yn aelod o dîm seiclo Prydain ers yr oedd hi'n 16 mlwydd oed.[3]Fe enillodd hi'r fedal efydd yn y ras bwyntiau menywod yng Ngemau'r Gymanwlad 2022.[4]