From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhaliwyd etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau ar Ddydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012. Hon oedd y 57fed etholiad arlywyddol a gynhelir bob pedair blynedd i'r Coleg Etholiadol ethol arlywydd ac is-arlywydd, a bydd y Coleg yn gwneud hynny'n swyddogol ar 17 Rhagfyr 2012. Ymgyrchodd deiliad yr arlywyddiaeth, y Democratwr Barack Obama, am ail dymor.[1] Ei brif wrthwynebydd oedd cyn-Lywodraethwr Massachusetts, y Gweriniaethwr Mitt Romney.[2] Dim ond pedwar ymgeisydd arall oedd ag unrhyw siawns o ennill mwyafrif o'r coleg etholiadol (270 o bleidleisiau): cyn-Lywodraethwr New Mexico, y Rhyddewyllysiwr Gary Johnson;[3] Jill Stein, enwebiad y Blaid Werdd,[4] Virgil Goode, ymgeisydd y Blaid Gyfansoddiadol, a Rocky Anderson, ymgeisydd y Blaid Gyfiawnder.[5] Er ei bod yn annhebygol iawn y byddai un o'r pedwar yma'n ennill yr etholiad, roedd yn bosib iddynt effeithio ar bleidleisiau Romney ac Obama.[6]
| ||||||||||||||||||||||||||
538 aelod o'r Coleg Etholiadol 270 pleidlais i ennill | ||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Nifer a bleidleisiodd | 58.6% | |||||||||||||||||||||||||
| ||||||||||||||||||||||||||
|
Cafwyd tair dadl arlywyddol rhwng Obama a Romney, ac un ddadl is-arlywyddol rhwng Joe Biden, cydymgeisydd Obama, a Paul Ryan, cydymgeisydd Romney. Yn yr wythnos cyn yr etholiad, ymyrrodd Corwynt Sandy ar yr ymgyrch a gohiriodd Obama a Romney rhai digwyddiadau.[7] Wrth nesáu at ddiwrnod yr etholiad roedd y canlyniad yn rhy agos i ragfynegi ac yn ddibynnol ar naw talaith allweddol, ond yn ôl nifer o bolau piniwn roedd Obama ar y blaen o drwch blewyn.[8]
Cafodd Obama ei ail-ethol wedi iddo sicrhau 270 o bleidleisiau'r Coleg Etholiadol.[9][10] Fflorida, un o'r taleithiau allweddol, oedd yr olaf i ddatgan canlyniadau ei phleidleisiau i'r Coleg Etholiadol ar 10 Tachwedd, a hynny o blaid Obama gan roi iddo gyfanswm o 332 o bleidleisiau'r Coleg o gymharu â 206 gan Romney. O ran y bleidlais boblogaidd, enillodd Obama 50% o'r bleidlais o gymharu â 49.1% gan Romney, mwyafrif o 74,000 o bleidleisiau.[11]
Ceisiodd yr Arlywydd yna-periglor Barack Obama a’r Is-Arlywydd Joe Biden gael eu hail-ethol, ar ôl ennill yn 2008.
Tocyn Plaid Ddemocrataidd 2012 | |
---|---|
Barack Obama | Joe Biden |
dros Arlywydd | dros Is-Arlywydd |
44ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (2009–2017) |
47ain Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau (2009–2017) |
Tocyn Plaid Weriniaethol 2012 | |
---|---|
Mitt Romney | Paul Ryan |
dros Arlywydd | dros Is-Arlywydd |
70ain Llywodraethwr o Massachusetts (2003–2007) |
Cynrychiolydd yr UD dros Wisconsin (1999–2019) |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.