2012
blwyddyn From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2007 2008 2009 2010 2011 - 2012 - 2013 2014 2015 2016 2017
Digwyddiadau
Ionawr
- 3 Ionawr - Christopher Loeak yn dod yn Arlywydd Ynysoedd Marshall.
 - 5 Ionawr - Portia Simpson-Miller yn dod yn Brif Weinidog Jamaica.
 
Chwefror
- 25 Chwefror - "Y Gwanwyn Arabaidd": Abd Rabbuh Mansur Al-Hadi yn dod yn Arlywydd Yemen.
 
Mawrth
- 1 Mawrth - Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn dod cyfrifol am Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn.
 - 15 Mawrth - Leanne Wood yn dod yn arweinydd Plaid Cymru
 - 22 Mawrth - Coup d'état yn y Gweriniaeth Mali
 
Ebrill
- 2 Ebrill - László Kövér yn dod yn Arlywydd Hwngari.
 - 12 Ebrill - Dioncounda Traoré yn dod Arlywydd Mali dros dro.
 - 26 Ebrill-27 Ebrill - Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig yn ymweld â Caerdydd, Merthyr Tudful, Aberfan, Glyn Ebwy a Crughywel.
 
Mai
- 11 Mai - Tân Derby, 2012
 - 12 Mai - Dechreuad Expo 12 yn Yeosu, De Corea.
 - 22 Mai - Agoriad y Tokyo Skytree.
 
Mehefin
- 8-10 Mehefin - Llifogydd mawr yng Ngheredigion.[1] Bu'n rhaid canslo Sioe Amaethyddol Ceredigion.
 
Gorffennaf
- 8 Gorffennaf - Mae Roger Federer yn ennill Wimbledon am y seithfed tro.
 - 27 Gorffennaf-12 Awst - Gemau Olympaidd yr Haf yn Llundain
 
Awst
Medi
- 4 Medi - David Jones yn dod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
 - 21 Medi - "Gangnam Style" gan PSY yn cyrraedd brig y Siart Senglau DU.
 
Hydref
- 22 Hydref-31 Hydref - Corwynt Sandy yng Ngogledd America; 199 o bobol yn colli ei bywydau.
 
Tachwedd
Rhagfyr
- 4 Rhagfyr - Teiffŵn Bopha yn dod i'r Pilipinas; 475 o bobol yn colli ei bywydau.
 - 11 Rhagfyr - Django Sissoko yn dod yn Prif Weinidog Mali.
 - 16 Rhagfyr - Achos trais Delhi
 
Remove ads
Genedigaethau
- 24 Ionawr - Tywysoges Athena o Ddenmarc, merch Tywysog Joachim o Ddenmarc a'i wraig, Tywysoges Marie
 
Marwolaethau
- 5 Ionawr - Idwal Fisher, chwaraewr rygbi, 76
 - 6 Ionawr
- Bob Holness, cyflwynydd teledu, 83
 - Clive Shell, chwaraewr rygbi, 64
 
 - 8 Ionawr - Brian Curvis, paffiwr, 74
 - 20 Ionawr - Etta James, cantores, 73
 - 1 Chwefror
- Olga Rapay-Markish, arlunydd, 82
 - Wisława Szymborska, bardd, 88
 
 - 11 Chwefror - Whitney Houston, cantores, 48
 - 22 Chwefror
- Marie Colvin, newyddiadurwraig, 56
 - Frank Carson, comediwr, 85
 
 - 24 Chwefror - Peter Halliday, actor, 88
 - 29 Chwefror - Davy Jones, canwr ac actor, 66
 - 5 Mawrth - Philip Madoc, actor, 77
 - 15 Mawrth - Mervyn Davies, chwaraewr rygbi, 65
 - 21 Mawrth - Emlyn Hooson, gwleidydd, 86
 - 24 Mawrth - Jocky Wilson, chwaraewr dartiau, 62
 - 30 Mawrth - Emrys Roberts, bardd, 82
 - 28 Ebrill - Matilde Camus, bardd o Sbaen, 92
 - 26 Mai - Stephen Healey, milwr, 29
 - 17 Mehefin - Brian Hibbard, actor a chanwr, 65
 - 18 Mehefin - Tom Maynard, cricedwr, 23
 - 18 Gorffennaf - Jack Matthews, chwaraewr rygbi a meddyg, 91
 - 21 Gorffennaf - Angharad Rees, actores, 63
 - 13 Awst - Eileen Beasley, ymgyrchydd iaith, 91
 - 20 Awst
- Dom Mintoff, Prif Weinidog Malta, 96
 - Phyllis Diller, actores a chomediwraig, 95
 
 - 25 Awst - Neil Armstrong, gofodwr, 82
 - 3 Medi
- Michael Clarke Duncan, actor, 54
 - Sun Myung Moon, 92
 
 - 18 Medi - Malcolm Struel, cadeirydd C.P.D. Dinas Abertawe, 78
 - 1 Hydref - Eric Hobsbawm, hanesydd, 95
 - 10 Hydref - Basil L. Plumley, milwr, 92
 - 15 Hydref - Norodom Sihanouk, brenin Cambodia, 89
 - 21 Hydref - George McGovern, gwleidydd, 90
 - 23 Hydref
- Michael Marra, cerddor, 60
 - Owen Roberts, newyddiadurwr, 73
 
 - 25 Hydref - Jacques Barzun, hanesydd ac athronydd, 104
 - 27 Hydref - Hans Werner Henze, cyfansoddwr, 86
 - 2 Tachwedd - Han Suyin, awdures, 95
 - 6 Tachwedd
- Clive Dunn, actor, 92
 - Ivor Powell, pêl-droediwr, 95
 
 - 9 Tachwedd 
- Bill Tarmey, actor, 71
 - Nika Georgievna Golts, arlunydd, 87
 
 - 18 Tachwedd - Kenny Morgans, pêl-droediwr, 73
 - 5 Rhagfyr - Dave Brubeck, cerddor, 91
 
Y celfyddydau
Llyfrau
Gweler Llenyddiaeth yn 2012
Cerddoriaeth
Albymau
- Clinigol - Discopolis
 - Marina and the Diamonds - Electra Heart[3]
 - Tom Jones - Spirit in the Room
 
Celf
- "Shane Williams", gan David Griffiths
 
Eisteddfod Genedlaethol (Bro Morgannwg)
- Cadair: Dylan Iorweth
 - Coron: Gwyneth Lewis
 - Medal Ryddiaeth: dim gwobr
 - Gwobr Goffa Daniel Owen: Robat Gruffudd, Afallon
 
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: Serge Haroche a David J. Wineland
 - Cemeg: Robert Lefkowitz a Brian Kobilka
 - Meddygaeth: John B. Gurdon a Shinya Yamanaka
 - Llenyddiaeth: Mo Yan
 - Economeg: Alvin E. Roth a Lloyd Shapley
 - Heddwch: Yr Undeb Ewropeaidd
 
Y tywydd yng Nghymru
- Atgofion o haf 2012 gan y meteorolegydd Les Larsen o Benisarwaun
 
Dyma ychydig o ansoddeiriau parchus am haf 2012: glawog, cymylog, gwyntog, diflas, undonog, gyda bwrw, haul yn aml ac ambell i daran. Roedd yr haf yn wlypach na hyd yn oed haf 2007 pan gawsom 476 mm o law [tua 19 modfedd]. Eleni daeth 511mm [20 modfedd] i lawr ar y pentref [Penisarwaun]; 243.5mm ym Mehefin, 132.5mm yng Ngorffennaf a 135mm yn Awst, a hynny ar 70 ddyddiau allan o 92. Ar ben hyn oll ni chafwyd llawer o ddyddiau poeth. Yr unig ddiwrnod poeth oedd yr 11eg o Awst pan aeth y tymheredd i fyny i 24.6C. Gyda llaw yn ystod haf 2011, 49 o ddyddiau gyda glaw a gawsom.
Gwnaed yr haf yn fwy llwm oherwydd absenoldeb nifer o greaduriaid: ee. 1. Y fuwch goch gota; 2. sboncyn [sioncyn] y gwair o unrhyw fath; 3. gloynod byw onibai am y gwynion; 4. pry llwyd a'i bigiad distaw. Ar yr ochr orau o'r haf oedd ymweliad y barcut coch wrth yr hen ysgol a gardd yn Nhanycoed, LLanrug yn lloches i ddraenog. A braf oedd gweld llyffant du y dafedennog yn yr ardd acw. Hefyd bu adar y to yn llwyddiannus yn magu teulu yn nho y modurdy. Roedd gwennol y bondo hefyd yn llwyddiannus yn magu teulu ym mondo ty gerllaw.[4]
- Ebrill 2012 (Data ac argraffiadau Les Larsen, Penisarwaun, Arfon)[5]
 
Cawsom fis gwlyb, diflas, a gwyntog. Y diwrnod gorau oedd yr un olaf o’r mis pan aeth y tymheredd i fyny i 16.6C (62.F); fel arall isel oedd tymheredd y prynhawnau. Hefyd nid aeth hi’n oer iawn; yr isaf oedd 0.3C ar y 4ydd o’r mis. Yn sicr yr oedd Ebrill yn fis gwlyb iawn gyda 24 ddyddiau efo glaw a chawsom drochiad o 159.5mm [6 modfedd] ohono. Dim ond un Ebrill sydd wedi bod wlybach ers 1984 a hwnnw oedd Ebrill 2005 gyda 179.5 mm. Cofiwch nid yw Ebrill yn fis gwlyb o gwbl; yn 2010 dim ond 14.5mm o law a gafwyd. Ar y 3ydd o’r mis yr oedd eira ar y mynydd tros 3000 tr. ond drannoeth cawsom dywydd stormus gydag eira dros 700tr. Yma bu ychydig o eira, eirlaw a modfedd o law. Ar y mynyddoedd yr oedd hi’n dymhestlog iawn yn peri i’r eira ffurfio lluwchfeydd anferth a bu nifer ohonynt yn llechu yma ac acw hyd at y diwrnod olaf o’r mis ac yna i fis Mai. Gan fy mod yn son am Ebrill, mae’n braf cael enwi rhai o’r blodau a fu’n addurno ymyl ein ffyrdd; bwtsias y gog, llygad Ebrill, botwm crys, blodyn llefrith, suran y coed, dant y llew, blodau’r ddraenen ddu, cywion gwyddau, blodau,r helygen, crinllys, ceiriosen, mefus gwyllt a braidd cyn ei amser, llau’r offeiriad. Yr oeddwn wrth fy modd yn gweld wenci/bronwen yn croesi’r ffordd yn ddiofn wrth ymyl Perthi. Ond y siom o’r mwyaf oedd y ffaith nad yw’r wennol na gwennol y bondo wedi gweld yn dda ddod yma i gyfarch y gwanwyn. Mae’r wennol wedi cyrraedd Ceunant, a’r gog. Mi wn i am un wedi tynnu llun y gog yn ei ardd. Yma rydym wedi colli’r gog, y wennol y gylfinir ac yn eu lle nhw cael yr aderyn swnllyd, y durtur dorchog.”
Remove ads
Tywydd
Crynodeb tywydd Penisarwaun 2012
Mae'r hen drigolion yn cofio gaeafau 1947, 1963 ac 1979 oherwydd y tywydd oer gydag eira a rhew am wythnosau, gyda'r afonydd a'r llynnoedd wedi rhewi. Heb os mi fydd 2012 hefyd yn aros yn cof oherwydd y glaw di-baid. Cawsom 1888mm. a hwnnw'n disgyn arnom ar 242 o ddyddiau o'r flwyddyn. Serch hynny y flwyddyn wlybaf yn y cyfnod 1984-2012 oedd 2000 pan dadlwythodd y cymylau 1959mm.arnom. Fe ddaeth y glaw trwm yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr, ond yn 2012 daeth bron ar hyd y flwyddyn. ...Ac mae y diwrnod gwlybaf yn hysbys i bawb sef yr 22 o Dachwedd pan gwelsom 64mm hynny yw 2.5 modfedd yn dod i lawr ar ein pennau.[6]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads