Cafodd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 ei gynnal ar 6 Mai, 2010 er mwyn ethol Aelodau Seneddol. Cystadlodd pleidiau gwleidyddol am 650 sedd yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig sef îs-dŷ Senedd y Deyrnas Unedig, oherwydd ni chaiff aelodau Tŷ'r Arglwyddi eu hethol. O'i gymharu â'r etholiad cyffredinol blaenorol cafwyd pedair sedd ychwanegol. Cyhoeddwyd yr etholiad gan Gordon Brown, Prif Weinidog y DU, ar 6 Ebrill 2010 a datgorffwyd y senedd ar 12 Ebrill er mwyn dechrau ar yr ymgyrchoedd etholiadol. Digwyddodd y pleidleisio rhwng 7.00 yb a 10.00 yh. Cynhaliwyd rhai etholiadau lleol mewn rhai ardaloedd ar yr un diwrnod.
Ffeithiau sydyn 650 sedd 326 sedd i gael mwyafrif, Nifer a bleidleisiodd ...
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010[1]
|
|
|
650 sedd 326 sedd i gael mwyafrif |
Nifer a bleidleisiodd |
65.1% |
|
Plaid 1af |
Ail blaid |
3ydd plaid |
|
|
|
|
Arweinydd |
David Cameron | Gordon Brown | Nick Clegg |
Plaid |
Ceidwadwyr |
Llafur |
Democratiaid Rhyddfrydol |
Arweinydd ers |
6 Rhagfyr 2005 | 24 Mehefin 2007 | 18 Rhagfyr 2007 |
Sedd yr Arweinydd |
Witney | Kirkcaldy and Cowdenbeath | Sheffield Hallam |
Seddi tro yma |
198, 32.4% | 355, 35.2% | 62, 22.0% |
Seddi cynt |
210 | 349 | 62 |
Seddi a gipiwyd |
307 | 258 | 57 |
Newid yn y seddi |
97* | 91* | 5* |
Cyfans. pleidl. |
10,703,654 | 8,606,517 | 6,836,248 |
Canran |
36.1% | 29.0% | 23.0% |
Tuedd |
3.7% | 6.2% | 1.0% |
|
|
Map o ganlyniad yr etholiad.
^ Nid yw'r niferoedd yn cynnwys y Llefarydd.
* Newid yn y ffiniau |
|
Cau
Nod y Blaid Lafur oedd dychwelyd i'w pedwerydd tymor mewn pŵer ac adfer y cefnogaeth a gollwyd ers 1997.[2] Anelodd y Blaid Geidwadol at adfer eu safle dominyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ar ôl iddynt golli nifer o seddau yn ystod y 1990au, ac i gipio safle'r Blaid Lafur fel y blaid lywodraethol. Gobeithiodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ennill mwy o seddau wrth y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr; yn ddelfrydol, buasent hwythau eisiau ffurfio llywodraeth eu hunain, er nod mwy realistig fyddai i fedru ffurfio llywodraeth clymbleidiol.