Cymuned Ymreolaethol, sef y rhanbarthau Araba, Bizkaia a Gipuzkoa From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Autonomi Erkidegoa, Sbaeneg: Comunidad Autónoma del País Vasco) yw'r gymuned ymreolaethol sy'n cynnwys tair talaith fwyaf gorllewinol y rhan o Wlad y Basg sydd o fewn ffiniau Sbaen. Cyfeirir ati hefyd fel Euskadi mewn Basgeg, term a ddefnyddid yn wreiddiol am y cyfan o Wlad y Basg, ond a ddefnyddir fel rheol bellach fel enw am Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae'n gyfrifol am Etxepare Euskal Institutua (Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg) corff er hyrwyddo diwylliant Basgeg yn fyd-eang.
Euskal Herria Euskal Autonomi Erkidegoa | |
Math | Gwlad |
---|---|
Prifddinas | Vitoria-Gasteiz |
Poblogaeth | 2,213,993 |
Anthem | Eusko Abendaren Ereserkia, Gernikako Arbola |
Pennaeth llywodraeth | Iñigo Urkullu Renteria |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Gwlad y Basg |
Sir | Sbaen |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 7,234 km² |
Uwch y môr | 876 metr |
Gerllaw | Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Nafarroa Garaia, La Rioja, Cantabria, Castilla y León, Nouvelle-Aquitaine |
Cyfesurynnau | 43°N 2.75°W |
ES-PV | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Lehendakari |
Pennaeth y Llywodraeth | Iñigo Urkullu Renteria |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.924 |
Mae'r diriogaeth yn fynyddig, gyda mynyddoedd y Pyreneau a mynyddoedd Cantabria. Mae llawer o ddiwydiant yno, ac mae'n un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Rhennir yr Euskal Autonomi Erkidegoa yn dair talaith:
Ceir mudiad ymreolaethol cryf yma.
Sefydlwyd y Gymuned fel endid wleidyddol yn dilyn refferendwm dros Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979 lle pleidleiswyd yn drwm dros greu Senedd Euskadi. Y bwriad wreiddiol oedd cynnwys Nafarroa yn rhan o'r senedd, ond bu rhwyg a sefydlwyd senedd gyda grymoedd tebyg ar gyfer talaith Nafarroa. Ers ei sefydlu mae Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg - EAJ-PNV - wedi bod yn brif blaid yn y senedd yn ddi-dor.
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.