![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/18/Nigeria_location_map.svg/langcy-640px-Nigeria_location_map.svg.png&w=640&q=50)
Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres o ffrwydradau ar draws gogledd-ddwyrain Nigeria ac y tu allan i'r brifddinas Abuja ar 25 Rhagfyr 2011 oedd ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011. Cafodd gwasanaethau'r Nadolig mewn eglwysi eu targedu gan Boko Haram, grŵp Islamaidd filwriaethus sydd â'r nod o orfodi sharia ar Nigeria. Bu farw 37 o bobl mewn ffrwydrad y tu allan i Eglwys y Santes Teresa ym Madalla, ger Abuja, ac anafwyd 57.[1] Bu ffrwydrad yn agos i Eglwys Mynydd y Tân a'r Gwyrthiau yn Jos, a chafodd heddwas yna ei ladd wrth i ddynion arfog saethu ar bobl. Cafodd dau fom arall mewn adeilad agos eu diarfogi gan luoedd milwrol.[2]
Enghraifft o'r canlynol | hunanfomio mewn car ![]() |
---|---|
Dyddiad | 25 Rhagfyr 2011 ![]() |
Lladdwyd | 43 ![]() |
Lleoliad | Madalla ![]() |
![]() |
Bu dau ffrwydrad yn ninas Damaturu, un ohonynt gan hunan-fomiwr car ar gonfoi Gwasanaeth Diogelwch y Wladwriaeth a laddodd tri pherson ar wahân i'r bomiwr, a ffrwydrad arall ger eglwys yn nhref Gadaka.[2]