![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cf/Samsung_Galaxy_Z_with_S_Pen.jpg/640px-Samsung_Galaxy_Z_with_S_Pen.jpg&w=640&q=50)
Ffôn clyfar
From Wikipedia, the free encyclopedia
Microgyfrifiadur wedi'i gyfuno â ffôn symudol sy'n fwy pwerus na'r ffôn symudol arferol yw'r ffôn clyfar (Saesneg: smartphone). Mae ganddo elfennau o'r cyfrifiadur yn ei grombil, gan gynnwys meddalwedd system weithredu. Mae hefyd yn medru derbyn ac anfon e-byst, yn galluogi'r defnyddiwr i gysylltu gyda'r rhyngrwyd, defnyddio meddalwedd sydd ar gael o siopau rhithwir, a chamera a system gwmpawd GPS. Erbyn Rhagfyr 2011 roedd gostyngiadau mewn prisiau yn golygu bod ffonau clyfar wedi dod yn llawer mwy poblogaidd.[1]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cf/Samsung_Galaxy_Z_with_S_Pen.jpg/640px-Samsung_Galaxy_Z_with_S_Pen.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f4/Foldable_phones.jpg/640px-Foldable_phones.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d0/Original_iPhone_docked.jpg/640px-Original_iPhone_docked.jpg)
Y math mwyaf poblogaidd o fatri a ddefnyddiwyd yn 2014 (a chyn hynny) yn y ffonau oedd y batri lithiwm-ion.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6e/Mobile_payment_01.jpg/640px-Mobile_payment_01.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/ac/World_Wide_Smartphone_Sales_Share.png/640px-World_Wide_Smartphone_Sales_Share.png)
Erbyn haf 2012 roedd dros un biliwn o bobl yn defnyddio ffôn clyfar. Roedd 2013 yn garreg filltir bwysig gan i fwy o ffonau clyfar gael eu gwerthu na'r ffonau symudol arferol. Erbyn 2019 roedd bron pob ffôn a gynhyrchwyd yn ffôn clyfar, ac felly, yn araf, cyfeiriwyd at y ffonau hyn heb y gair 'clyfar', gan ei gymryd yn ganiataol.[2][3]