From Wikipedia, the free encyclopedia
Sefyllfa ddamcaniaethol o ddinistr amgylcheddol a fyddai'n digwydd o ganlyniad i ryfel niwclear yw gaeaf niwclear. Tybir byddai ffrwydradau'r bomiau niwclear yn effeithio ar hinsawdd y Ddaear, yn enwedig oeri a thywyllu byd-eang wrth i fwg ac huddygl godi i'r atmosffer a rhwystro golau'r haul.
Yn y 1970au, cyhoeddwyd sawl astudiaeth yn tybio y byddai nitrogen ocsid a gynhyrchir gan ffrwydradau niwclear yn teneuo'r haen osôn yn y stratosffer, sydd yn cysgodi bywyd ar y Ddaear rhag ymbelydredd uwchfioled yr haul. Yn ôl astudiaethau eraill, byddai'r llwch a godir i'r atmosffer gan ffrwydradau niwclear yn rhwystro golau'r haul rhag wyneb y Ddaear, ac yn oeri'r awyr. Bathwyd y term "gaeaf niwclear" mewn astudiaeth ym 1983 gan y gwyddonwyr R. P. Turco, O. B. Toon, T. P. Ackerman, J. B. Pollack, a Carl Sagan (TTAPS), sydd yn ymwneud â'r mwg ac huddygl a fyddai'n codi o ganlyniad i betroliwm a phlastigion yn llosgi mewn dinasoedd a ddinistriwyd gan fomiau niwclear.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.