Gemau Olympaidd yr Haf 2020
From Wikipedia, the free encyclopedia
Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol ydy Gemau Olympaidd yr Haf 2020, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXXII Olympiad ac a gynhelir yn Tokyo, Japan, o 23 Gorffennaf hyd 8 Awst 2021. Yn wreiddiol i fod i gael ei gynnal rhwng 24 Gorffennaf a 9 Awst 2020, gohiriwyd y digwyddiad ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.[1] Cynhwyswyd tri deg tri o chwaraeon.
Dinas | Tokyo, Japan |
---|---|
Arwyddair | Unedig gan Emosiwn |
Gwledydd sy'n cystadlu | 206 |
Athletwyr sy'n cystadlu | 11,326 |
Cystadlaethau | 339 mewn 33 o Chwaraeon Olympaidd |
Seremoni Agoriadol | Gorffennaf 23, 2021 |
Seremoni Gloi | Awst 8, 2021 |
Agorwyd yn swyddogol gan | Naruhito, Ymerawdwr Japan |
Cynnau'r Fflam | Naomi Osaka |
Yn y seremoni agoriadol ar 23 Gorffennaf, cafodd y tîm o Brydain Fawr ei hysgrifennu "EIKOKU" (英国) ar y placard ond cyflwynodd y cyhoeddwr NHK y tîm "IGIRISU" ("Lloegr"). Roedd y hwylwraig Cymreig Hannah Mills yn cario'r faner Prydain Fawr, gyda Mohamed Sbihi.[2]. Yn ystod y Gemau, gwnaeth ei chanlyniadau hi'r morwr benywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.[3]
Tîm nofio Prydain oedd y mwyaf llwyddiannus erioed, ar ôl ennill pedair medal aur, tair arian ac un efydd.[4]
Oherwydd cyfyngiadau COVID, roedd yn rhaid i'r holl gystadleuwyr ddychwelyd i'w mamwlad cyn pen dau ddiwrnod o'u digwyddiad olaf.