Godre'r-graig
pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan yng nghymuned Ystalyfera, bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Godre'r-graig.[1][2] Fe'i lleolir yng Nghwm Tawe ar bwys y briffordd A4067 tua 3.5 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bontardawe.
Tirlithriad Mynydd Allt-y-grug yn 1963 | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7468°N 3.8106°W |
Cod OS | SN751069 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
Ar ochr uchaf y pentref saif ardal Y Graig Arw a Phant-teg, sy'n cysylltu Godre'r-graig ag Ystalyfera.
Capel Pant-teg oedd yr addol-dý cyntaf ym mhentref a chymuned Ystalyfera; fe'i codwyd gan y gymuned eu hunain a hynny yn 1821. Prynnwyd y tir ar lês o 999 mlynedd am geiniog neu ddwy yn unig ac enwyd y capel gan y Parch. John Davies o Alltwen.[3]
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[4] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[5]
Yn etholiad lleol 2012 daeth 43.81% i fwrw eu pleidlais a'r canlyniad oedd:
Ymgeisydd | Plaid | Pleidleisiau | Statws |
---|---|---|---|
Rosalyn Davies | Plaid Cymru | 300 | Plaid Cymru yn dal eu gafael |
Jackie Myers | Llafur | 286 |