Gorsaf reilffordd yng Nghasnewydd, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Gorsaf reilffordd Casnewydd (Saesneg: Newport) yw'r orsaf reilffordd trydydd brysuraf yng Nghymru (ar ôl Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines Caerdydd), sydd wedi'i lleoli yng nghanol dinas Casnewydd. Y perchnogion yw Network Rail ac mae'n cael ei weithredu gan Trafnidiaeth Cymru, er bod First Great Western a CrossCountry hefyd yn darparu gwasanaethau. Mae'r brif fynedfa'r orsaf wedi ei lleoli ar Queensway. Cafodd yr orsaf ei hagor yn wreiddiol yn 1850 gan Gwmni Rheilffordd De Cymru. Prif Beiriannydd y cwmni oedd Isambard Kingdom Brunel, ac roedd lled y trac saith troedfedd, yr un y defnyddiwyd gan Brunel ar Reilffordd Great Western[1]. Newidiwyd lled y traciau i'r lled safonol ym Mai 1872, yr un maint a'r rheilffyrdd eraill yn yr ardal.[2] a chafodd ei ehangu'n sylweddol yn 1928 ac eto yn 2010.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Casnewydd |
Agoriad swyddogol | 1850 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5896°N 2.999°W |
Cod OS | ST309883 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 4 |
Côd yr orsaf | NWP |
Rheolir gan | KeolisAmey Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn cynnal presenoldeb yng Nghasnewydd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.