![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a2/View_across_Penarth_Moors_toward_Cardiff_-_geograph.org.uk_-_1378102.jpg/640px-View_across_Penarth_Moors_toward_Cardiff_-_geograph.org.uk_-_1378102.jpg&w=640&q=50)
Grangetown
ardal a chymuned yng Nghaerdydd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.[1] Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | cymuned, maestref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4675°N 3.1853°W ![]() |
Cod SYG | W04000847 ![]() |
![]() | |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3b/Gweithfeydd_Nwy%2C_Grangetown%2C_Caerdydd.jpg/640px-Gweithfeydd_Nwy%2C_Grangetown%2C_Caerdydd.jpg)
Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011[2]. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd,[3] ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.