From Wikipedia, the free encyclopedia
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwibiwr Lulworth, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwibwyr Lulworth; yr enw Saesneg yw Lulworth Skipper, a'r enw gwyddonol yw Thymelicus acteon.[1][2]
Thymelicus acteon | |
---|---|
Llun gan John Curtis allan o British Entomology Cyfrol 5 | |
Statws cadwraeth | |
Bregus (NatureServe) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Hesperiidae |
Genws: | Thymelicus |
Rhywogaeth: | T. acteon |
Enw deuenwol | |
Thymelicus acteon (Rottemburg, 1775) | |
Canol a Gogledd Ewrop, Asia Leiaf a Gogledd Affrica |
Cafodd ei gofnodi gyntaf ym Mhrydain yn 1832 gan y naturiaethwr James Charles Dale ger Lulworth Cove, Dorset. Mae hyd ei adenydd rhwng 24–28 mm ac mae'r fenyw'n fwy na'r gwryw.
Mae'r math sy'n byw yn Affrica ychydig yn dywyllach eu lliw.[3]
Dim ond yn Swydd Dorset mae i'w ganfod yma, a hynny ar yr arfordir.[4] Credir eu bont yn llewyrchu yma'n well nag maen nhw wedi'i wneud ers eu cofnodi gyntaf yn 1832.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae gwibiwr Lulworth yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.