From Wikipedia, the free encyclopedia
Agwedd o hanes cyfreithiol Cymru yw hanes cyfansoddiadol Cymru sy'n ymwneud â statws cyfansoddiadol y wlad. Heddiw mae Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac felly heb gyfansoddiad ysgrifenedig cyfundrefnol, ond cyfansoddiad sydd yn gymysgedd o ddeddfau, cytundebau, cyfraith gyffredin, a thraddodiadau. Mae gan Gymru gynulliad deddfwriaethol a llywodraeth ddatganoledig, ond nid yw'r rhain yn llwyr annibynnol ar lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Wedi marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282, daeth Cymru dan reolaeth Brenin Lloegr, er nad oedd yn rhan o Deyrnas Lloegr. Ymgorfforwyd Cymru yn rhan gyfreithiol o Deyrnas Lloegr gan Y Deddfau Uno 1536 a 1543. Yn ôl Deddf Cymru a Berwick 1746, byddai unrhyw ddeddfau fyddai'n cael eu pasio ar gyfer Lloegr o hynny ymlaen hefyd yn weithredol yng Nghymru a Berwick-upon-Tweed. Ebai William Ewart Gladstone, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn y 19g, "The distinction between England and Wales is totally unknown to our constitution.".[1]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.