marchog (1364-1403) From Wikipedia, the free encyclopedia
Uchelwr Seisnig a mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, oedd Syr Henry Percy, mwy adnabyddus wrth ei lysenw Hotspur neu Harry Hotspur (20 Mai 1364/1366 – 21 Gorffennaf 1403).
Henry 'Hotspur' Percy | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1364 Gogledd Swydd Efrog |
Bu farw | 21 Gorffennaf 1403 o lladdwyd mewn brwydr Amwythig |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | marchog |
Tad | Henry Percy, Iarll 1af Northumberland |
Mam | Margaret Neville |
Priod | Elizabeth Mortimer |
Plant | Henry Percy, Elizabeth Percy |
Llinach | House of Percy |
Gwobr/au | Urdd y Gardas, Marchog Faglor |
Ganed ef yng nghastell Spofforth yn Northumberland. Daeth yn amlwg fel rhyfelwr, gan ymladd yn erbyn yr Alban a Ffrainc. Yn Awst 1388, gorchfygwyd ef a'i gymeryd yn garcharor ym Mrwydr Otterburn gan fyddin Albanaidd dan James Douglas, 2il Iarll Douglas. Bu'n Llywodraethwr Bordeaux o 1393 hyd 1395. Wedi dychwelyd o Ffrainc, cynorthwyodd ei dad i ddiorseddu Rhisiart II, brenin Lloegr a rhoi Henry o Bolingbroke ar yr orsedd fel Harri IV.
Yn 1403, gwrthryfelodd ef a'i ewythr, Thomas Percy, Iarll Caerwrangon, yn erbyn Harri IV, a gwnaeth gytundeb ag Owain Glyndŵr. Cyn iddo fedru ymuno â lluoedd Glyn Dŵr, lladdwyd ef ym Mrwydr Amwythig yn erbyn y brenin. Dywedir fod ei fyddin yn trechu byddin y brenin, ond cododd Hotspur ddarn gwyneb ei helm, a tharawyd ef gan saeth, a'i ladd yn y fan.[1] Heb eu harweinydd, ffôdd ei fyddin.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.