From Wikipedia, the free encyclopedia
System o holltau daearegol yw Hollt Dwyrain Affrica neu'r Hollt Affricanaidd-Arabaidd[1] sydd yn ymestyn o'r hollt gyfandirol rhwng platiau tectonig Arabia ac Affrica yn Ne Orllewin Asia yn y gogledd, ar hyd y Môr Coch a thrwy Ddwyrain Affrica tua'r de. Hon yw un o'r holltau hiraf ar wyneb y Ddaear, rhyw 6,400 km o hyd a 50–60 km o led ar gyfartaledd. Mae'n cynnwys Afon Iorddonen, y Môr Marw, a Gwlff Aqaba yn y gogledd, Gwastadedd Denakil yn Ethiopia, a rhanbarth Llynnoedd Mawr Affrica. Parheir yr hollt i'r de drwy Dansanïa a Mosambic tuag at arfordir Cefnfor India. Lleolir y rhan fwyaf o Hollt Dwyrain Affrica yn y trofannau. Ar hyd yr hollt yng nghyfandir Affrica mae Plât Affrica yn hollti'n ddwy ran, neu ddau fân-blât tectonig: Plât Nubia a Phlât Somalia.
Map o ffiniau'r platiau tectonig a'r holltau daearegol ym mhenrhyn Arabia a Dwyrain Affrica, gan ddangos llosgfynyddoedd hanesyddol fyw (trionglau cochion) a Thriongl Afar (yn dywyll) sydd yn nodi cymer Plât Arabia a lle mae Plât Affrica yn hollti'n ddwy. | |
Math | rift |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 3°S 35.5°E |
Mae Hollt Dwyrain Affrica yn cynnwys dwy gainc: Dwyrain y Dyffryn Hollt, neu'r Dyffryn Hollt Mawr, sydd yn ymestyn ar hyd yr holl system; a Gorllewin y Dyffryn Hollt, a red o ogledd Llyn Malawi tua'r gogledd, gan gynnwys llynnoedd Rukwa, Tanganica, Kivu, Edward, ac Albert.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.