Homo erectus georgicus
is-rywogaeth o Homo erectus a ystyriwyd ar un cyfnod yn rhywogaeth lawn / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Homo erectus georgicus yn is-rywogaeth o Homo erectus a ystyriwyd ar un cyfnod yn rhywogaeth lawn.[1] Fe'i darganuwyd yn Dmanisi, Georgia yn 1991 gan David Lordkipanidze pan gloddiwyd i'r wyneb bum penglog. Daeth nifer o ffosiliau eraill i'r fei, gan gynnwys penglog cyfan yn 2005 a 73 o offer-llaw i dorri a naddu a 34 aswrn amryw o anifeiliaid. Fe'i dyddiwyd i 1.8 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).
Penglog Dmanisi 3, penglog D2700 a gên D2735, a ganfuwyd yn Dmanisi, gwlad Georgia. | |
Enghraifft o'r canlynol | ffosil (tacson) |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Homo |
Dechreuwyd | Mileniwm 1850. CC |
Daeth i ben | Mileniwm 1750. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar y cychwyn credwyd fod y ffosiliau o rywogaeth newydd, a alwyd yn Homo georgicus, ar ôl y wlad lle'u darganfuwyd, a'i fod yn esblygiad uniongyrchol o'r Homo habilis Affricanaidd, ac yn un o hynafiaid Homo erectus. Ni chafwyd cefnogaeth i hyn, a dynodwyd y darganfyddiad fel isrywogaeth o Homo erectus.[2]
Yr hyn sy'n nodedig am y sgerbydau hyn yw fod eu hasgwrn cefn, y clun a'r coesau'n gymharol 'fodern', er bod rhannau eraill, fel y benglog, yn hynafol; credir ei fod yn llawer cyflymach ac ystwythach ar ei draed na dengys morffoleg ei ragflaenwyr.[3]
Credir, bellach ei fod wedi esblygu wedi i H. habilis esblygu'n H. erectus tua 1.8 CP.[4][5]
Mae gan benglog D2700 gyfaint o 600 cubic centimetre (37 cu in), a phenglog D4500 (Penglog Dmanisi 5, gyfaint o tua 546 cubic centimetre (33.3 cu in) - sy'n eu gwneud y penglogau lleiaf yn y cyfnod Pleistosen.[6][7]