cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm, actores a chyfansoddwr a aned yn Baltimore yn 1971 From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Jada Koren Pinkett Smith (ganwyd 18 Medi 1971) yn actores, dawnswraig, cantores, cyfansoddwraig, a menyw busnes. Dechreuodd ei gyrfa yn 1990, pan wnaeth ymddangosiad byr yn y rhaglen gomedi byrhoedlog True Colors. O 1991 hyd at 1993, serennodd fel Lena James yn y gyfres deledu A Different World, a gynhyrchwyd gan Bill Cosby. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Menace II Society, yn 1993, ac yna ymddangosodd gyda Eddie Murphy yn The Nutty Professor (1996). Ers hynny, mae hi wedi ymddangos mewn dros 20 o ffilmiau nodwedd, gan gynnwys Set It Off (1996), Scream 2 (1997), Ali (2001), The Matrix Reloaded a The Matrix Revolutions (2003), Madagascar (2005), Madagascar: Escape 2 Africa (2008), a Madagascar 3: Europe's Most Wanted (2012), ac, yn fwy diweddar, Girls Trip (2017).
Jada Pinkett Smith | |
---|---|
Ganwyd | Jada Koren Pinkett 18 Medi 1971 Baltimore, Maryland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr, actor llais, cerddor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr, sgriptiwr, television personality, person busnes, entrepreneur, cynhyrchydd teledu |
Adnabyddus am | Enter the Matrix, Madagascar, Gotham, Collateral, The Matrix Revolutions, Ali, Hawthorne, Bad Moms |
Arddull | cerddoriaeth roc, hip hop, rapio |
Taldra | 152 centimetr |
Priod | Will Smith |
Plant | Jaden Smith, Willow Smith |
Gwobr/au | Gwobr y Dyniaethau, David Angell, Gwobr Delwedd NAACP am yr Actores Eithriadol mewn Cyfres Ddrama, Gwobr Delwedd NAACP amWaith Llenyddol Arbennig, Gwobr Time 100 |
Gwefan | https://www.jadapinkettsmith.com/ |
Ganwyd Jada Koren Pinkett yn Baltimore, Maryland, gan ei galw'n Jada ar ôl hoff actores sebon ei mam: Jada Rowland.[1] Mae Pinkett Smith yn tarddu o deulu Affricanaidd-Americanaidd a Jamaicaidd.[2][3][4]
Lansiodd Jada ei gyrfa gerddorol yn 2002 pan helpodd hi greu'r band metal Wicked Wisdom. Hi sy'n canu ac yn ysgrifennu'r caneuon i'r band hwn. Bu iddi hefyd sefydlu cwmni cynhyrchu, yn ogystal ag ysgrifennu llyfr i blant, Girls Hold Up This World, a gyhoeddwyd yn 2004.
Mae hi wedi bod yn briod i'r cerddor Will Smith ers 1997. Mae ganddynt ddau o blant, mab o'r enw Jaden a merch o'r enw Willow. Drwy eu priodas mae hi hefyd yn llysfam i fab Will o'i briodas gyntaf, Trey Smith.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.