![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/79/Jesse_James_portrait.png/640px-Jesse_James_portrait.png&w=640&q=50)
Jesse James
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Jesse Woodson James (5 Medi 1847 – 3 Ebrill 1882) yn herwr, lleidr banc a llofrudd o Americanwr a aned yn Centerville, Missouri, UDA. Rhwng 1860 a 1881, credir fod y James Gang wedi dwyn cymaint â $200,000. Cynhyrchwyd y ffilm cyntaf ohono yn 1921: Jesse James Under the Black Flag a oedd yn serennu ei fab, o'r un enw.[1]
Jesse James | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Jesse Woodson James ![]() 5 Medi 1847 ![]() Kearney, Missouri ![]() |
Bu farw | 3 Ebrill 1882 ![]() St. Joseph, Missouri ![]() |
Man preswyl | Jesse James Home Museum ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Galwedigaeth | cowboi ![]() |
Tad | Robert S. James ![]() |
Mam | Zerelda James ![]() |
Priod | Zerelda Mimms ![]() |
Plant | Jesse E. James ![]() |
llofnod | |
![]() |
Jesse oedd aelod enwocaf Giang James-Younger. Ers ei farwolaeth yn St. James, Missouri, yn 1882, mae wedi tyfu'n ffigwr llên gwerin gyfoes sydd wedi ysbrydoli sawl ffilm, llyfr a chylchgrawn cartŵn. Roedd y teulu o dras Gymreig: yr oedd Jesse yn or-ŵyr i William James, a anwyd yn Sir Benfro, oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn 1754 a ymfudodd i Bennsylvania gyda'i deulu.[2] Enw'i daid (sef mab William James) oedd John James.[3]