cyfansoddwr a aned yn 1854 From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfansoddwr ac arweinydd cerddorfa Americanaidd oedd John Philip Sousa (/ˈsuːsə/;[1] 6 Tachwedd 1854 – 6 Mawrth 1932). Mae'n enwog am ei ymdeithganau milwrol a gwladgarol, ac fe'i elwir yn aml yn "Frenin yr Ymdeithganau" (Saesneg: The March King).[2]
John Philip Sousa | |
---|---|
Ganwyd | 6 Tachwedd 1854 Washington |
Bu farw | 6 Mawrth 1932 o trawiad ar y galon Reading |
Man preswyl | Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, person milwrol, cyfansoddwr, sport shooter, ysgrifennwr, arweinydd band, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Stars and Stripes Forever |
Arddull | opera, military band |
Priod | Jane Bellis Sousa |
Plant | John Philip Sousa II |
Gwobr/au | Order of Public Instruction, Royal Victorian Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hall of Fame Americanwyr Mawr |
llofnod | |
Roedd yn fab i Bortiwgead ac Almaenes a chafodd ei eni a'i fagu yn Washington, D.C. Dysgodd y fiolin a damcaniaeth cerddoriaeth pan oedd yn blentyn, ac yn ei arddegau dysgodd y trombôn a dechreuodd arwain a chyfansoddi. Ymunodd â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau ym 1868 fel prentis ym Mand y Môr-filwyr, ac o 1880 hyd 1892 roedd yn arweinydd y seindorf hon.[3] Ffurfiodd fand ei hunan ym 1892 a theithiodd ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop (1900–05) ac yn hwyrach y byd (1910–11) yn perfformio cerddoriaeth filwrol a symffonig.[4]
Cyfansoddodd 136 o ymdeithganau milwrol gan gynnwys "The Washington Post" (1889), "The Liberty Bell" (1893), a "The Stars and Stripes Forever" (1897), a "Semper Fidelis" (1888) sydd yn ymdeithgan swyddogol Corfflu'r Môr-filwyr. Cyfansoddodd 11 o operetâu rhwng 1879 a 1915, gan gynnwys El Capitan (1896), The Bride Elect (1897), a The Free Lance (1906). Ysgrifennodd gasgliad o ganeuon o nifer o wledydd dan y teitl National, Patriotic and Typical Airs of All Lands (1890) ar gyfer Adran y Llynges. Yn y 1890au datblygodd yr offeryn a elwir heddiw yn sousaffon.[3]
Ymunodd Sousa â Llynges yr Unol Daleithiau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a daeth yn bennaeth y ganolfan hyfforddi cerddorol yng Nghanolfan Lyngesol y Llynnoedd Mawr yn Illinois. Ym 1928 cyhoeddodd ei hunangofiant, Marching Along.[3] Cyflwynodd ei gyfansoddiad "The Royal Welch Fusiliers" i'r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol ym 1930 i nodi cysylltiad y gatrawd honno â Chorfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, perthynas a ffurfiwyd yn ystod Gwrthryfel y Bocswyr ym 1900.[5] Bu farw Sousa yn 77 oed yn Reading, Pennsylvania, o drawiad ar y galon.[6]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.