ffisgeydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Syr John Theodore Houghton CBE FRS CCDdC (30 Rhagfyr 1931 - 15 Ebrill 2020) yn ffisegydd atmosfferig o Sir Ddinbych, Cymru. Bu’n Athro Ffiseg yr Awyrgylch ym Mhrifysgol Rhydychen (1973-83), Pennaeth Canolfan Appleton (ac Is-Bennaeth Labordy Rutherford-Appleton) (1979-83) a Phennaeth Swyddfa Dywydd[1] y DU (1983-1991). Yn 1988 sefydlwyd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (yr IPCC) gyda Syr John yn Is-Gadeirydd arno[2]. Bu wedyn yn Gadeirydd ei grŵp ymgynghorol gwyddonol. Ymddeolodd yn 2002. Yn 2007 dyfarnwyd y Wobr Nobel am Heddwch i’r IPCC ar y cyd â chyn Is-lywydd yr UD, Al Gore.[3] Roedd Syr John yn bresennol yn Oslo, yn un o cannoedd o wyddonwyr yr IPCC, i dderbyn y Wobr. Ef oedd prif olygydd tri adroddiad cyntaf yr IPCC[4].
John T. Houghton | |
---|---|
Ganwyd | 30 Rhagfyr 1931 Diserth |
Bu farw | 15 Ebrill 2020 o COVID-19 Ysbyty Dolgellau ac Abermaw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd, academydd, gwyddonydd, hinsoddegydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, CBE, Gwobr Ryngwladol Albert Einstein am Wyddoniaeth, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Gwobr y Sefydliad Feteorolegol Rhyngwladol, Bakerian Lecture, Glazebrook Medal, Gwobr Japan, Chree Medal and Prize, Marchog Faglor, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Royal Society Bakerian Medal |
Yn 1997 sefydlodd, gyda gwyddonwyr eraill, Fenter John Ray (JRI)[5], corff i ddod â Gwyddoniaeth, yr Amgylchedd a’r Ffydd Gristnogol ynghyd[6]. Syr John oedd ei Gadeirydd cyntaf (ei frawd Paul oedd y Trysorydd) ac yn Llywydd arno hyd ei farwolaeth [7] .Roedd yn aelod sefydlol o'r Gymdeithas Ryngwladol Gwyddoniaeth a Chrefydd. Roedd hefyd yn llywydd Sefydliad Victoria.
Yn 1972 fe’i hetholwyd yn Gymrodor o’r Gymdeithas Frenhinol[8] ac yn 2010 yn un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru[9]. Fe’i hurddwyd yn Farchog yn 1991[2]. Enillodd anrhydeddau lu, gan gynnwys Doethuriaeth er Anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth.[10]
Yn enedigol o Ddiserth, roedd yr ail o dri mab i Sidney a Vivien (née Yarwood) Houghton. Symudodd y teulu i'r Rhyl pan oedd John yn ddyflwydd oed. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Rhyl lle darganfu ei ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Yn 16 oed, parhaodd â'i addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan ennill MA (Oxon), MPhil a DPhil.[11] Cafodd ei fagu fel Cristion efengylaidd gan rieni Cristnogol defosiynol a chredai fod gwyddoniaeth a Christnogaeth yn cryfhau ei gilydd. Bu'n amlwg wrth hyrwyddo'r achos Amgylcheddol Cristionogol. Roedd Cristnogaeth efengylaidd Houghton ynghyd â’i gefndir gwyddonol yn ei wneud yn llais sylweddol mewn cylchoedd Cristnogol efengylaidd. Ar ddiwedd ei oes, roedd yn flaenor yr Eglwys Bresbyteraidd yn Aberdyfi. Un o’i brif fentrau gyda'r JRI oedd gweithio gyda’r Esgob James Jones, Lerpwl, a Tearfund[12] i gynnal cyfres o gyfarfodydd preifat a chyhoeddus ymhlith arweinwyr Eglwysi Efengylaidd yr Unol Daleithiau i geisio eu hargyhoeddi o’u dyletswydd i’r cyfeiriad hwn[6]. Cafwyd peth llwyddiant.
Roedd Houghton yn Wyddonydd Anrhydeddus Canolfan Rhagfynegiad Hinsawdd ac Ymchwil Hadley yn y Swyddfa Dywydd (o 2002) ac yn Ymddiriedolwr Sefydliad Shell (o 2000). Gwasanaethodd fel cadeirydd Menter John Ray (o 1997) [11][13]. Yn 2013 daeth yn aelod o fwrdd ymgynghorol Technoleg Sure Chill, elusen sy'n darparu rhewgelloedd brechlyn sy'n para'n oer am hyd at 10 ddiwrnod mewn gwledydd tlawd heb gyflenwad trydan dibynadwy.
Yn flaenorol roedd Syr John
Yn ystod y 1970au roedd yn Brif Ymchwilydd ar gyfer Arbrofion Gofod ar long ofod NASA[8].
Bu pum olygiad o'i lyfr dylanwadol Global Warming. The Complete Briefing. Yr olaf yn 2015[14]. Yn 2013 cyhoeddodd ei hunangofiant, In the Eye of the Storm[15]. (Cyfeiria’r teitl at gorwynt 1987 a ddaeth a gryn sylw i Michael Fish[16] a’r Swyddfa Dywydd.)
Derbyniodd Ddoethuriaethau Gwyddonol er Anrhydedd gan Brifysgolion Aberystwyth (1991), Stirling (1992), East Anglia (1993), Leeds (1995), Heriot-Watt (1996), Greenwich (1997), Morgannwg (1998), Reading ( 1999), Birmingham (2000), Swydd Gaerloyw (2001), Hull (2002) a Dalhousie (2010). Roedd yn Gymrawd Anrhydeddus Coleg yr Iesu, Rhydychen a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan ac roedd hefyd yn Gymrawd Sylfaenol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Ym 1962, priododd John Houghton â Dr Margaret Broughton, bu iddynt ddau o blant, a saith o wyrion[2]. Yn dilyn ei marwolaeth hi o ganser ym 1986, sefydlodd Gronfa Goffa Margaret Houghton, uned ymchwil ar nyrsio meddygol er cof amdani. Bu ei ail wraig, Shiela Thompson, yn gymar iddo am bron i ddeng mlynedd ar hugain.
Wedi ymddeol symudodd yn ôl i Gymru gan fyw yn Aberdyfi. Bu farw Syr John o gymhlethdodau o COVID-19 yn Ysbyty Dolgellau ar 15 Ebrill 2020, yn 88 oed.[18]
Ymhlith ei gyhoeddiadau mae
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.